{"id":1273,"date":"2016-11-22T12:20:58","date_gmt":"2016-11-22T12:20:58","guid":{"rendered":"https:\/\/osian.cymru\/?p=1273"},"modified":"2025-12-01T19:05:21","modified_gmt":"2025-12-01T19:05:21","slug":"beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/osian.cymru\/en\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\/","title":{"rendered":"Gwlad beirdd a barddoniaeth: a oes diffyg amrywiaeth?"},"content":{"rendered":"<p>Ym <a href=\"https:\/\/soundcloud.com\/podlediad_clera\">mhennod diweddaraf podlediad Clera <\/a>trafodwyd a oes diffyg amrywiaeth ymhlith ein beirdd a&#8217;n barddoniaeth yn gyffredinol. Dechreuodd y sgwrs drwy drafod y diffyg beirdd benywaidd sy&#8217;n ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol a pham fod hynny&#8217;n bod. Ond trwy gyfrwng cyfraniadau treiddgar a dadlennol gan Gwennan Evans, Elinor Wyn Reynolds, Mererid Hopwood a Karen Owen, buan y cododd y drafodaeth ar adain uwch.\u00a0Dyna esgor felly ar yr erthygl hon.<\/p>\n<h2>Diffyg merched yn y &#8216;S\u00een Farddol&#8217; heddiw?<\/h2>\n<p>Mae&#8217;n rhaid i mi gytuno ag awgrym Karen Owen mai nid yn y &#8216;s\u00een farddol&#8217; (beth bynnag yw hwnnw) <em>heddiw<\/em> y mae&#8217;r broblem. Bu diffyg amrywiaeth yn broblem ers bod &#8216;traddodiad&#8217; barddol. Does gen i&#8217;m amheuaeth fod hynny&#8217;n wir. Gellid dadlau fod canrifoedd lawer wedi pasio pan fu cyfyngu ar yr hyn sy&#8217;n deilwng o fod yn aruchel ac yn rhan o draddodiad mwy. Mynachod fyddai piau cofnodi. Uchelwyr oedd piau&#8217;r drefn. Ac wedyn dynion oedd bennaf yn sefydliad yr Eisteddfod\u00a0ac yn y byd cyhoeddi. Mae hynny wedi parhau ym mhatriarchaeth seicolegol y &#8216;s\u00een farddol&#8217;.<\/p>\n<p>Dychmygwch wedyn beth sy&#8217;n eithriadol i&#8217;r norm yn ein traddodiad barddol ni. Yn yr Oesoedd Canol tueddwn i feddwl am <a href=\"http:\/\/www.dafyddapgwilym.net\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Dafydd ap Gwilym<\/a>. Canai ef mewn arddull wahanol, am bynciau oesol sy&#8217;n dal i&#8217;n cyffroi heddiw. Roedd fel petai ganddo un droed yn rhydd\u00a0o lyffethair\u00a0canu mawl a threfn cymdeithasol ei gyfoeswyr. Ond eto, roedd y llall yn gadarn yn ei hual, ac mewn gwirionedd amrywiad\u00a0gweddol fychan ydi dafydd ap Gwilym\u00a0yn narlun mawr y traddodiad barddol.<\/p>\n<p>Ar yr un pryd \u00e2 hyn rydym yn dal i drafod beirdd benywaidd fel Gwerful Mechain fel petaen nhw yn bodoli mewn categori eu hunain &#8211; &#8216;canu merched&#8217;. Ddim cweit yn y traddodiad barddol am nad ydynt yn ffitio i&#8217;r mowld.<\/p>\n<p>Esgorodd hyn yn y podlediad\u00a0ar\u00a0bwynt treiddiol iawn: a oes angen i&#8217;n barddoniaeth fagu&#8217;r gallu i ddilysu profiadau ein cymdeithas yn ei holl amrywiaeth? Mae hyn yn codi sawl cwestiwn a phryfociad difyr.<\/p>\n<h2><strong>A oes diffyg\u00a0amrywiaeth yn ein barddoniaeth gyffredinol?<\/strong><\/h2>\n<p>Beth am inni edrych ar yr hyn sy&#8217;n gyffredin yn ein barddoniaeth heddiw, o ran safbwyntiau&#8217;r beirdd a phynciau&#8217;r cerddi. (Maddeuwch i mi am gyffredinoli i ryw raddau.)<\/p>\n<p>Gellid dadlau fod y mwyafrif\u00a0o gerddi Cymraeg heddiw yn cael eu cyfansoddi gan feirdd sy&#8217;n perthyn i un neu ragor o&#8217;r categor\u00efau yma:<\/p>\n<ul>\n<li>Dynion<\/li>\n<li>Dosbarth canol<\/li>\n<li>Beirdd Cenedlaetholgar<\/li>\n<\/ul>\n<p>(A chyn i chi ddweud dim &#8211; mae&#8217;n debyg fy mod i fy hun perthyn i&#8217;r tri hyn)<\/p>\n<p>Y them\u00e2u sy&#8217;n aml yn gyffredin ymhlith y beirdd hyn (hyd syrffed, medd rhai) ydi rhai&#8217;n ymwneud \u00e2<\/p>\n<ul>\n<li>Cons\u00fdrns cenedlaetholdeb<\/li>\n<li>Nostaljia crefyddol<\/li>\n<li>Cwynion cyfiawnder (neu angst anghyfiawnder)<\/li>\n<\/ul>\n<h2><strong>Eithriadau aneithriadol<\/strong><\/h2>\n<p>Yn ein canu cyfoes bu eithriadau o&#8217;r norm hwn. Fe&#8217;n hatgoffir yr enillwyd y Gadair ddwywaith (allan o 16) yn y ganrif hon gan ferch.<\/p>\n<p>Ond o ran amrywiadau thematig neu &#8216;eithriadau&#8217; i&#8217;r norm, daeth y rhain hefyd yn amlach na pheidio gan y beirdd gwrywaidd, gwyn. Pan gurodd\u00a0Rhys Iorwerth y Gadair yn 2011, fe&#8217;i galwyd gan un beirniad yn\u00a0Ddafydd ap Gwilym newydd. Does dim dwywaith fod iddo\u00a0lais unigryw, cyfoes sy&#8217;n pontio profiadau amrywiol y Gymru gyfoes, a&#8217;i farddoniaeth yn canu&#8217;n wefreiddiol. Ond o edrych yn ehangach nid yw hynny, fel Dafydd ap Gwilym o&#8217;i flaen, yn troi traddodiad\u00a0ben i waered; rhyw\u00a0wyriad bach dros dro o&#8217;r llwybr cul\u00a0ydi hyn.<\/p>\n<h2>Nabod y teip<\/h2>\n<p>Ydi hi&#8217;n wir fod &#8216;teip&#8217; penodol o gerdd yn fwy tebygol o ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol? Teip fwy &#8216;ceidwadol&#8217; o ran arddull, efallai, a safbwynt sy&#8217;n plesio beirniaid (boed y rheiny&#8217;n disgyn i&#8217;r categori gwyn, gwrywaidd hefyd ai peidio). Rhyfygwn a dweud fod tueddiadau diweddar yn awgrymu hyn. Nid wyf yn honni fod\u00a0cerddi annheilwng wedi curo&#8217;r Gadair yn ddiweddar, ond tueddir i wobrwyo cerddi sy&#8217;n ffitio&#8217;r mowld cydnabyddedig. Pan gyflwynir cerdd fwy arbrofol o ran safbwynt, llais neu arddull fe dueddir i ganmol ei menter ei chrefft. Ond ni ellir cweit magu&#8217;r stumog i&#8217;w gwobrwyo.<\/p>\n<p>Ydi nofelau a chyfrolau rhyddiaith yn cynnig gwell lle i arbrofi yn Gymraeg? Mae gwell amrywiaeth o safbwyntiau yn ein nofelau nac yn ein barddoniaeth. A bu arbrofion difyr gydag iaith ac arddull wedi dros y blynyddoedd diweddar mewn nofelau ysgubol fel <em>Ebargofiant<\/em>\u00a0gan Jerry Hunter.<\/p>\n<h2><strong>Beth felly am feirdd o gefndiroedd eraill?<\/strong><\/h2>\n<p>Mae yng Ngyhmru brofiadau llawer ehangach na&#8217;r hyn sy&#8217;n cael ei gyfleu mewn barddoniaeth Gymraeg.<\/p>\n<p>Pobl sy&#8217;n byw mewn tai cyngor. Pobl sy&#8217;n ddi-waith neu&#8217;n methu cael swyddi. Pobl sy&#8217;n fewnfudwyr neu o gefndiroedd ethnig gwahanol. Merched. Pobl hoyw, deurywiol neu drawsrywiol. Prin yw&#8217;r lleisiau hyn mewn gwirionedd. Tybed ydy&#8217;r &#8216;traddodiad&#8217; yn gyrru safbwyntiau neu brofiadau eraill at ffurfiau eraill o gelfyddyd\u00a0megiscerddoriaeth, celf weledol, theatr neu gomedi? Beirdd ar gyrion traddodiad\u00a0yw Geraint Jarman a Steve Eaves. Tybed a gawsant hwy ymgeledd mewn cerddoriaeth?<\/p>\n<h2><strong>Rhagor o addysg Gymraeg? Her arall<\/strong><\/h2>\n<p>Os ydy&#8217;r Llywodraeth o ddifri am roi addysg Gymraeg gyfartal i bob plentyn yng Nghymru, yna mae&#8217;n rhaid i&#8217;n beirdd a&#8217;n barddoniaeth fod yn barod i ymateb i&#8217;r her honno. Os nad yw&#8217;r cwricwlwm yn gallu adlewyrchu\u00a0digon o brofiadau perthnasol amrywiol i blant, a fydd barddoniaeth yn berthnasol mewn unrhyw ffordd iddyn nhw yn y dyfodol?<\/p>\n<p>Ac o fethu, a fyddwn ni yn cau allan rhan helaeth o bobl ifainc Cymru? Ystyriaf fy nghymdogaeth fy hun. Lawr y l\u00f4n yma yng Nglan yr Afon, Caerdydd mae Ysgol Gynradd Kitchener,\u00a0un\u00a0o ysgolion fwyaf amrywiol Cymru o ran cefndiroedd ei disgyblion dwi&#8217;n si\u0175r. Sut mae croesawu holl brofiadau&#8217;r plant hyn, dangos iddynt fod barddoniaeth Gymraeg yn perthyn iddyn nhw hefyd ac nad t\u0177 gwydr cae\u00ebdig ydi&#8217;n traddodiad barddol?<\/p>\n<h2><strong>Ambell awgrym<\/strong><\/h2>\n<p>Nid oes gen i&#8217;r atebion i gyd, ond dyma rai awgrymiadau os ydym am herio&#8217;r diffyg amrywiaeth yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Dylai fod parodrwydd yn\u00a0y system addysg i gyflwyno barddoniaeth amrywiol a pherthnasol i Gymru heddiw sy&#8217;n cyffroi pobl ifanc. Cerddi sy&#8217;n addas fel pwynt mynediad i gyfoeth ein ll\u00ean (Sori, felly, Waldo a TH). Siaradaf i fel rhywun oedd \u00e2 diddordeb ddigon llugoer mewn beirdd a barddoniaeth pan oeddwn yn yr ysgol.<\/p>\n<p>Dylid caniat\u00e1u i blant a phobl ifainc gyfleu eu profiadau nhw trwy farddoniaeth, gan wfftio&#8217;r\u00a0syniad o&#8217;r hyn sy&#8217;n gywir\u00a0neu&#8217;n anghywir; be sy&#8217;n gymhariaeth a be sy&#8217;n drosiad; neu ba thema mae&#8217;r gerdd yn &#8216;ffitio&#8217;.<\/p>\n<p>Dylai fod parodrwydd beirniadol mewn eisteddfodau bach a mawr, talyrnau ac adolygiadau i groesawu lleisiau sy&#8217;n swnio&#8217;n wahanol, yn arbrofi gyda ffurf, llais neu fynegiant. Neu&#8217;n cyfleu profiad cwbl wahanol.<\/p>\n<h2>Chwalu&#8217;r T\u0177 Gwydr<\/h2>\n<p>Byddai hyn y brosiect tymor hir a chymhleth o&#8217;r ochr addysgol. Ond os ydym am drosglwyddo&#8217;r traddodiad barddol i bawb yn y dyfodol mae&#8217;n rhaid wrth lacio fymryn ar ein gafael haearnaidd ar ein hamgyffrediad o beth\u00a0yw barddoniaeth a&#8217;i phwrpas. A fydd yn\u00a0bosib i ni wyntyllu yn llawn sut fyd a sut genedl y dymunwn fyw ynddynt heb gyfraniad holl leisiau ein cymdeithas?<\/p>\n<p>Mewn cynhadledd y b\u00fbm ynddi yn ddiweddar, wrth drafod cyfranogi yn y celfyddydau, soniodd\u00a0<a href=\"https:\/\/arestlessart.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Fran\u00e7ois Matarasso<\/a>\u00a0bod peryg mawr os nad ydyn ni&#8217;n fodlon gwrando ar leisiau amrywiol, a lleisiau difreitiedig ein cymdeithas, y bydd byd y celfyddydau yn cael\u00a0ei weld fel &#8216;el\u00eet rhyddfrydol&#8217;. Mae hynny yr un mor wir, os nad yn fwy gwir, o fewn <em>niche<\/em> lleiafrifol cerdd dafod, barddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg.<\/p>\n<p><strong>Beth amdani? Priodwn draddodiad gyda newydd-deb profiadau amrywiol. Ond cofiwn y dylai&#8217;r traddodiad ymffurfio trwy gyfrwng beirdd newydd sy&#8217;n ei gyfoethogi. Nid t\u0177 gwydr na chlwb aelodaeth ddylai\u00a0&#8216;traddodiad&#8217; fod.<\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ym mhennod diweddaraf podlediad Clera trafodwyd a oes diffyg amrywiaeth ymhlith ein beirdd a&#8217;n barddoniaeth yn gyffredinol. Dechreuodd y sgwrs drwy drafod y diffyg beirdd benywaidd sy&#8217;n ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol a pham fod hynny&#8217;n bod. Ond trwy gyfrwng cyfraniadau treiddgar a dadlennol gan Gwennan Evans, Elinor Wyn Reynolds, Mererid Hopwood a [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":1277,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_uag_custom_page_level_css":"","site-sidebar-layout":"default","site-content-layout":"","ast-site-content-layout":"default","site-content-style":"default","site-sidebar-style":"default","ast-global-header-display":"","ast-banner-title-visibility":"","ast-main-header-display":"","ast-hfb-above-header-display":"","ast-hfb-below-header-display":"","ast-hfb-mobile-header-display":"","site-post-title":"","ast-breadcrumbs-content":"","ast-featured-img":"","footer-sml-layout":"","theme-transparent-header-meta":"","adv-header-id-meta":"","stick-header-meta":"","header-above-stick-meta":"","header-main-stick-meta":"","header-below-stick-meta":"","astra-migrate-meta-layouts":"default","ast-page-background-enabled":"default","ast-page-background-meta":{"desktop":{"background-color":"var(--ast-global-color-4)","background-image":"","background-repeat":"repeat","background-position":"center center","background-size":"auto","background-attachment":"scroll","background-type":"","background-media":"","overlay-type":"","overlay-color":"","overlay-opacity":"","overlay-gradient":""},"tablet":{"background-color":"","background-image":"","background-repeat":"repeat","background-position":"center center","background-size":"auto","background-attachment":"scroll","background-type":"","background-media":"","overlay-type":"","overlay-color":"","overlay-opacity":"","overlay-gradient":""},"mobile":{"background-color":"","background-image":"","background-repeat":"repeat","background-position":"center center","background-size":"auto","background-attachment":"scroll","background-type":"","background-media":"","overlay-type":"","overlay-color":"","overlay-opacity":"","overlay-gradient":""}},"ast-content-background-meta":{"desktop":{"background-color":"var(--ast-global-color-5)","background-image":"","background-repeat":"repeat","background-position":"center center","background-size":"auto","background-attachment":"scroll","background-type":"","background-media":"","overlay-type":"","overlay-color":"","overlay-opacity":"","overlay-gradient":""},"tablet":{"background-color":"var(--ast-global-color-5)","background-image":"","background-repeat":"repeat","background-position":"center center","background-size":"auto","background-attachment":"scroll","background-type":"","background-media":"","overlay-type":"","overlay-color":"","overlay-opacity":"","overlay-gradient":""},"mobile":{"background-color":"var(--ast-global-color-5)","background-image":"","background-repeat":"repeat","background-position":"center center","background-size":"auto","background-attachment":"scroll","background-type":"","background-media":"","overlay-type":"","overlay-color":"","overlay-opacity":"","overlay-gradient":""}},"footnotes":""},"categories":[],"tags":[847],"persona":[],"class_list":["post-1273","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","tag-crefft-barddoniaeth"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Gwlad beirdd a barddoniaeth: diffyg amrywiaeth? | Osian Rhys Jones p p p p<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Yn dilyn pennod tachwedd 2016 o Bodlediad Clera, dwi&#039;n holi a oes diffyg amrywiaeth o ran cefndiroedd a deunydd beirdd a barddoniaeth Gymraeg heddiw?\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/osian.cymru\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Gwlad beirdd a barddoniaeth: diffyg amrywiaeth? | Osian Rhys Jones p p p p\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Yn dilyn pennod tachwedd 2016 o Bodlediad Clera, dwi&#039;n holi a oes diffyg amrywiaeth o ran cefndiroedd a deunydd beirdd a barddoniaeth Gymraeg heddiw?\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/osian.cymru\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Osian Rhys Jones\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/OsianRhysJones\" \/>\n<meta property=\"article:author\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/OsianRhysJones\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2016-11-22T12:20:58+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-12-01T19:05:21+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/11\/Dynion-yn-gwarchod-cadair.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"597\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Osian\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@osianrhysjones\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@osianrhysjones\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Osian\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Osian\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/0a7628089d3511e709a0302e87073b7f\"},\"headline\":\"Gwlad beirdd a barddoniaeth: a oes diffyg amrywiaeth?\",\"datePublished\":\"2016-11-22T12:20:58+00:00\",\"dateModified\":\"2025-12-01T19:05:21+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\\\/\"},\"wordCount\":1251,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/0a7628089d3511e709a0302e87073b7f\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/osiandotcymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2016\\\/11\\\/Dynion-yn-gwarchod-cadair.jpg\",\"keywords\":[\"Crefft barddoniaeth\"],\"inLanguage\":\"en-US\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\\\/\",\"name\":\"Gwlad beirdd a barddoniaeth: diffyg amrywiaeth? | Osian Rhys Jones p p p p\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/osiandotcymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2016\\\/11\\\/Dynion-yn-gwarchod-cadair.jpg\",\"datePublished\":\"2016-11-22T12:20:58+00:00\",\"dateModified\":\"2025-12-01T19:05:21+00:00\",\"description\":\"Yn dilyn pennod tachwedd 2016 o Bodlediad Clera, dwi'n holi a oes diffyg amrywiaeth o ran cefndiroedd a deunydd beirdd a barddoniaeth Gymraeg heddiw?\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"en-US\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/osiandotcymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2016\\\/11\\\/Dynion-yn-gwarchod-cadair.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/osiandotcymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2016\\\/11\\\/Dynion-yn-gwarchod-cadair.jpg\",\"width\":800,\"height\":597,\"caption\":\"Dynion yn gwarchod cadair eisteddfodol.\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Hafan\",\"item\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/en\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Gwlad beirdd a barddoniaeth: a oes diffyg amrywiaeth?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/\",\"name\":\"Osian Rhys Jones\",\"description\":\"Poet and content designer\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/0a7628089d3511e709a0302e87073b7f\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"en-US\"},{\"@type\":[\"Person\",\"Organization\"],\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/0a7628089d3511e709a0302e87073b7f\",\"name\":\"Osian\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/osiandotcymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2017\\\/07\\\/Osian-Rhys-Jones-Gwe-1.jpg\",\"url\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/osiandotcymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2017\\\/07\\\/Osian-Rhys-Jones-Gwe-1.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/osiandotcymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2017\\\/07\\\/Osian-Rhys-Jones-Gwe-1.jpg\",\"width\":902,\"height\":600,\"caption\":\"Osian\"},\"logo\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/osiandotcymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2017\\\/07\\\/Osian-Rhys-Jones-Gwe-1.jpg\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/www.facebook.com\\\/OsianRhysJones\",\"https:\\\/\\\/x.com\\\/osianrhysjones\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Gwlad beirdd a barddoniaeth: diffyg amrywiaeth? | Osian Rhys Jones p p p p","description":"Yn dilyn pennod tachwedd 2016 o Bodlediad Clera, dwi'n holi a oes diffyg amrywiaeth o ran cefndiroedd a deunydd beirdd a barddoniaeth Gymraeg heddiw?","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/osian.cymru\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Gwlad beirdd a barddoniaeth: diffyg amrywiaeth? | Osian Rhys Jones p p p p","og_description":"Yn dilyn pennod tachwedd 2016 o Bodlediad Clera, dwi'n holi a oes diffyg amrywiaeth o ran cefndiroedd a deunydd beirdd a barddoniaeth Gymraeg heddiw?","og_url":"https:\/\/osian.cymru\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\/","og_site_name":"Osian Rhys Jones","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/OsianRhysJones","article_author":"https:\/\/www.facebook.com\/OsianRhysJones","article_published_time":"2016-11-22T12:20:58+00:00","article_modified_time":"2025-12-01T19:05:21+00:00","og_image":[{"width":800,"height":597,"url":"https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/11\/Dynion-yn-gwarchod-cadair.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Osian","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@osianrhysjones","twitter_site":"@osianrhysjones","twitter_misc":{"Written by":"Osian","Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/osian.cymru\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/osian.cymru\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\/"},"author":{"name":"Osian","@id":"https:\/\/osian.cymru\/#\/schema\/person\/0a7628089d3511e709a0302e87073b7f"},"headline":"Gwlad beirdd a barddoniaeth: a oes diffyg amrywiaeth?","datePublished":"2016-11-22T12:20:58+00:00","dateModified":"2025-12-01T19:05:21+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/osian.cymru\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\/"},"wordCount":1251,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/osian.cymru\/#\/schema\/person\/0a7628089d3511e709a0302e87073b7f"},"image":{"@id":"https:\/\/osian.cymru\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/11\/Dynion-yn-gwarchod-cadair.jpg","keywords":["Crefft barddoniaeth"],"inLanguage":"en-US","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/osian.cymru\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/osian.cymru\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\/","url":"https:\/\/osian.cymru\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\/","name":"Gwlad beirdd a barddoniaeth: diffyg amrywiaeth? | Osian Rhys Jones p p p p","isPartOf":{"@id":"https:\/\/osian.cymru\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/osian.cymru\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/osian.cymru\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/11\/Dynion-yn-gwarchod-cadair.jpg","datePublished":"2016-11-22T12:20:58+00:00","dateModified":"2025-12-01T19:05:21+00:00","description":"Yn dilyn pennod tachwedd 2016 o Bodlediad Clera, dwi'n holi a oes diffyg amrywiaeth o ran cefndiroedd a deunydd beirdd a barddoniaeth Gymraeg heddiw?","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/osian.cymru\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\/#breadcrumb"},"inLanguage":"en-US","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/osian.cymru\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-US","@id":"https:\/\/osian.cymru\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\/#primaryimage","url":"https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/11\/Dynion-yn-gwarchod-cadair.jpg","contentUrl":"https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/11\/Dynion-yn-gwarchod-cadair.jpg","width":800,"height":597,"caption":"Dynion yn gwarchod cadair eisteddfodol."},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/osian.cymru\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Hafan","item":"https:\/\/osian.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Gwlad beirdd a barddoniaeth: a oes diffyg amrywiaeth?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/osian.cymru\/#website","url":"https:\/\/osian.cymru\/","name":"Osian Rhys Jones","description":"Poet and content designer","publisher":{"@id":"https:\/\/osian.cymru\/#\/schema\/person\/0a7628089d3511e709a0302e87073b7f"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/osian.cymru\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"en-US"},{"@type":["Person","Organization"],"@id":"https:\/\/osian.cymru\/#\/schema\/person\/0a7628089d3511e709a0302e87073b7f","name":"Osian","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-US","@id":"https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/Osian-Rhys-Jones-Gwe-1.jpg","url":"https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/Osian-Rhys-Jones-Gwe-1.jpg","contentUrl":"https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/Osian-Rhys-Jones-Gwe-1.jpg","width":902,"height":600,"caption":"Osian"},"logo":{"@id":"https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/Osian-Rhys-Jones-Gwe-1.jpg"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/OsianRhysJones","https:\/\/x.com\/osianrhysjones"]}]}},"uagb_featured_image_src":{"full":["https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/11\/Dynion-yn-gwarchod-cadair.jpg",800,597,false],"thumbnail":["https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/11\/Dynion-yn-gwarchod-cadair-536x400.jpg",220,164,true],"medium":["https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/11\/Dynion-yn-gwarchod-cadair-536x400.jpg",400,299,true],"medium_large":["https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/11\/Dynion-yn-gwarchod-cadair-768x573.jpg",768,573,true],"large":["https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/11\/Dynion-yn-gwarchod-cadair.jpg",800,597,false],"1536x1536":["https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/11\/Dynion-yn-gwarchod-cadair.jpg",800,597,false],"2048x2048":["https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/11\/Dynion-yn-gwarchod-cadair.jpg",800,597,false]},"uagb_author_info":{"display_name":"Osian","author_link":"https:\/\/osian.cymru\/en\/author\/osianrhysjones\/"},"uagb_comment_info":0,"uagb_excerpt":"Ym mhennod diweddaraf podlediad Clera trafodwyd a oes diffyg amrywiaeth ymhlith ein beirdd a&#8217;n barddoniaeth yn gyffredinol. Dechreuodd y sgwrs drwy drafod y diffyg beirdd benywaidd sy&#8217;n ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol a pham fod hynny&#8217;n bod. Ond trwy gyfrwng cyfraniadau treiddgar a dadlennol gan Gwennan Evans, Elinor Wyn Reynolds, Mererid Hopwood a&hellip;","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1273","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1273"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1273\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2458,"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1273\/revisions\/2458"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1277"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1273"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1273"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1273"},{"taxonomy":"persona","embeddable":true,"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/persona?post=1273"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}