{"id":1257,"date":"2016-12-04T16:00:45","date_gmt":"2016-12-04T16:00:45","guid":{"rendered":"https:\/\/osian.cymru\/?p=1257"},"modified":"2025-12-01T19:04:11","modified_gmt":"2025-12-01T19:04:11","slug":"cystadlu-barddol-hanfod-ffetish","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/osian.cymru\/en\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\/","title":{"rendered":"Cystadlu barddol: hanfod y grefft yntau ffetish y beirdd?"},"content":{"rendered":"<p><strong>A ydi cystadlu barddol mewn eisteddfod neu dalwrn yn rhan annatod o fod yn fardd Cymraeg heddiw? Ynteu a ydyn ni wedi creu ffetish o&#8217;r syniad o gystadlu ar seiliau traddodiadau eisteddfodol diweddar a thraddodiadau mwy\u00a0hynafol?<\/strong><\/p>\n<p>Byddaf yn trafod hyn yng ngoleuni dyfyniad diddorol iawn gan Alan Llwyd a gyflwynwyd ar bodlediad Clera n\u00f4l ym mis Hydref. Yno roedd yn <a href=\"https:\/\/osian.cymru\/talu-i-gystadlun-y-steddfod-neu-beidio\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">trafod y drefn o gyflwyno tasgau a thalu i gystadlu mewn eisteddfodau<\/a>. Byddaf yn ei ddyfynnu yn nes ymlaen yn yr erthygl hon.<\/p>\n<p>Wrth imi ddwyn yr erthygl hon ynghyd, hwyliodd\u00a0trafodaeth ddifyr i harbwr\u00a0<a href=\"https:\/\/twitter.com\/heddgwynfor\/status\/804447739517898752\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">twitter<\/a> ac yn sylwadau tanllyd a phersonol\u00a0Miriam Elin Jones.\u00a0Roedd hi&#8217;n cyfuno&#8217;r elfen gystadleuol a&#8217;r drafodaeth ddiweddar am <a href=\"https:\/\/osian.cymru\/beirdd-barddoniaeth-diffyg-amrywiaeth\/\">ddiffyg amrywiaeth yn y byd barddol Cymraeg<\/a>. Fe wna i geisio gwneud ychydig i ddod \u00e2&#8217;r llinynnau hynny ynghyd lle y bo hynny&#8217;n gweddu.<\/p>\n<h2>Alan Llwyd yn diweddu ei ddyddiau cystadleuol<\/h2>\n<blockquote><p>Ar \u00f4l i Eisteddfod Genedlaethol 1976 adael blas drwg yn fy ngheg i, sef y syniad y byddai rhai beirdd yn gwneud unrhyw beth i ennill, penderfynais y byddwn yn ddiweddu fy nyddiau cystadleuol yn urddasol ac yn ddihelynt. Rhywbeth i mi oedd hynny.<\/p><\/blockquote>\n<p>Dyma ddechrau&#8217;r dyfyniad sydd dan sylw gan Alan Llwyd. Mae&#8217;n amlwg o&#8217;r dyfyniad uchod, bod arlliw personol iawn i benderfyniad Alan Llwyd yn sgil pantomeim cyhoeddus\u00a0<a href=\"https:\/\/cy.wikipedia.org\/wiki\/Eisteddfod_Genedlaethol_Cymru_Aberteifi_1976\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Eisteddfod Aberteifi 1976<\/a>. Wrth gwrs, erbyn hynny roedd Alan Llwyd eisoes wedi gwneud y peth prin hwnnw, sef ennill Y Dwbl-Dwbl. Hynny yw ennill Cadair a Choron yn yr un Eisteddfod Genedlaethol ddwy waith.<\/p>\n<p>Ac i feirdd ifanc, sy\u00a0efallai&#8217;n chwennych cipio teitl &#8216;Prifardd&#8217; am y tro cyntaf,\u00a0mae&#8217;r syniad o ymddeol o gystadlu ar \u00f4l ennill y fath glod yn atyniadol iawn! Cafodd Alan y cyfle i fynd &#8216;o&#8217;i wobr at ei waith&#8217;.<\/p>\n<p>Ond y difyrraf o sylwadau Alan Llwyd oedd wrth iddo holi\u00a0beth yn union yw natur a gwerth cystadlu heddiw&#8230;.<\/p>\n<h2>&#8216;Dydw i ddim yn credu mewn cystadleuaeth&#8217;<\/h2>\n<blockquote><p>Yn y b\u00f4n, &#8216;dydw i ddim yn credu mewn cystadleuaeth, dim ond mewn ffordd i fwrw prentisiaeth. Nid yw&#8217;r cystadlaethau llai yn yr<br \/>\nEisteddfod Genedlaethol yn denu, yn fy marn i, am nad oes unrhyw bwysigrwydd iddyn nhw. Amrywiol iawn yw safon yr englyn, at ei gilydd, ers tro bellach. Dechreuodd pethau ddirywio pan benderfynodd yr Eisteddfod godi t\u00e2l am gystadlu. Ni fyddwn i byth yn cystadlu eto. 1977 oedd y tro olaf. Ac ni chredaf mai cystadlu yw popeth. &#8211; Alan Llwyd<\/p><\/blockquote>\n<p>Fe anwybyddwn y sylwadau am godi t\u00e2l yn yr erthygl hon, gan fod trafod eisoes wedi bod\u00a0am hynny. Ond gafaelwn yn rhai o&#8217;r sylwadau eraill i&#8217;w gwyntyllu ymhellach.<\/p>\n<h2>Bwrw prentisiaeth yw cystadlu barddol<\/h2>\n<p>Ers ail sefydlu&#8217;r Eisteddfod yn ei dull modern, daeth cystadlu yn fodd i feirdd led-led Cymru fynd ben-ben \u00e2&#8217;i gilydd i dderbyn clod, a hynny trwy yrru cerddi drwy&#8217;r post yn ddienw.\u00a0A does dim dwywaith fod llawer o feirdd wedi elwa o&#8217;r drefn hon. Cawsant gyfle i gael beirniadaeth ar eu gwaith heb ddatgelu pwy ydyn nhw\u00a0na dioddef y\u00a0cywilydd o gyflwyno cerdd wael i gystadleuaeth. Mae hynny yn parhau hyd heddiw.<\/p>\n<p>Ond byddwn i&#8217;n dadlau fod nifer o&#8217;r beirdd a ddaeth i&#8217;r brig o dan y drefn hon hefyd wedi bod yn brentisiaid i athrawon barddol yn eu cymuned leol neu sefydliad addysg. <strong>Nid dim ond y gystadleuaeth\u00a0ei hunan oedd y brentisiaeth<\/strong>. Ymgais i dderbyn clod a ffon fesur i&#8217;r grefft oedd cystadlu. Tebycach ydi hyn i hen eisteddfodau barddol yr Oesoedd Canol. Clod oedd nod yr achlysuron hyn. Ffon fesur i feirdd oedd wrthi, neu wedi, bwrw gwir brentisiaeth mewn ysgol farddol. Yn ddiweddarach c\u00e2i feirdd brentisiaethau mewn capel, festri, caban chwarel neu glos fferm. Ond roedd yr egwyddor yr un fath.<\/p>\n<p><strong>Rhan o brentisiaeth yw cystadlu yn fy marn i<\/strong>. Ac ni all ynddo&#8217;i hun gyfrif fel prentisiaeth. Tybed ydyn ni felly yn disgwyl gormod gan ein beirniaid yn y fath gystadlaethau erbyn hyn, gan\u00a0fod trefn cymdeithas, fel yr hen gyfundrefn farddol o&#8217;i blaen, wedi cwympo fel dail o&#8217;n cwmpas?<\/p>\n<h2>Barnu&#8217;r beirniad ll\u00ean?<\/h2>\n<p>Mewn erthygl ar ei blog, cafwyd sylwadau go danllyd gan Miriam Elin Jones\u00a0sy&#8217;n codi dipyn o gwestiynau\u00a0y dylem fod yn barod i&#8217;w cydnabod ac ymateb iddynt.<\/p>\n<p>Yn yr erthygl honno mae&#8217;n s\u00f4n am ei phrofiad personol o gystadlu, gan deimlo nad yw beirniadaethau yng nghystadlaethau&#8217;r Urdd wedi bod yn fuddiol i&#8217;w datblygiad hi fel bardd.<\/p>\n<p>Gallaf gydymdeimlo \u00e2 hi, ond rhoddaf chwarae teg i&#8217;r beirniaid hefyd (y rhai yn y gystadleuaeth dan sylw, ac ym mhob cystadleuaeth o&#8217;r fath).<\/p>\n<p>Mae gan y beirniad r\u00f4l ddeuol. Rhoi barn feirniadol ar y cerddi yw un ohonynt. Cyfleu i&#8217;r\u00a0darllenwyr safon a chynnwys y gystadleuaeth yw&#8217;r llall. Hyn a hyn o ofod\u00a0sydd felly i anelu sylwadau beirniadol i gorlan y beirdd ac esbonio cynnwys rhai o&#8217;r cerddi i&#8217;r gynulleidfa ehangach. Nid swydd hawdd yw beirniadu.<\/p>\n<p>Hyn sy&#8217;n codi drachefn yn sylwadau Miriam: <strong>a oes gormod o ddisgwyliad fod\u00a0beirniadaethau a chystadlaethau yn datblygu pob un o&#8217;n beirdd ifainc<\/strong>? Nid yw barddoni yn brofiad unfath i bob bardd. Mae&#8217;r hyn sy&#8217;n ddyletswydd cyhoeddus i un\u00a0yn\u00a0orchwyl bersonol i&#8217;r llall. I eraill, mae rhywle&#8217;n y canol.<\/p>\n<h2>&#8216;Ni chredaf mai cystadlu yw popeth&#8217;<\/h2>\n<p>O dderbyn fod beirdd yn mynd i fod yn wahanol iawn eu natur i&#8217;w gilydd felly, sut mae\u00a0sicrhau fod pob bardd yn derbyn cyfleoedd i ddatblygu eu crefft yn y modd sy&#8217;n gweddu orau iddynt, heb orfod neidio ar y carws\u00e9l cystadleuol?<\/p>\n<p>Ai&#8217;r ateb ydi creu llwybrau newydd i feirdd llai cystadleuol ymarfer eu crefft dan law tiwtoriaid neu fentoriaid? Gall wadu&#8217;r cyfle hwnnw ynddo&#8217;i hun gyfrannu\u00a0at y diffyg amrywiaeth ymhlith ein beirdd ni, a chau rhai pobol allan.<\/p>\n<p>Mae ysgolion barddol yn bodoli mewn rhannau o Gymru heddiw, ond a ddylid sefydlu mwy a chryfhau&#8217;r rhwydwaith rhyngddynt\u00a0er mwyn meithrin rhagor o feirdd, fel y byddid wedi gwneud cyn dyddiau&#8217;r\u00a0Eisteddfod fodern?<\/p>\n<p>Bob yn ail flwyddyn, cyflwynir <strong>Ysgoloriaeth Emyr Feddyg<\/strong> i fardd addawol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae&#8217;r bardd buddugol yn ennill amser mentora gyda bardd profiadol dros gyfnod o flwyddyn. Gwobr amhrisiadwy i fardd sy&#8217;n datblygu felly. Mae meini prawf y gystadleuaeth yn gofyn am 30 cerdd heb eu cyhoeddi, felly dyma gystadleuaeth sy&#8217;n gweddu i feirdd llai cydnabyddedig neu feirdd llai cyhoeddus eu natur. Dim ond bod yn rhaid cystadlu er mwn cael y wobr yn y lle cyntaf! Ond a ddylid hyrwyddo&#8217;r gystadleuaeth hon yn well? Nid oes fawr o hysbysebu na llawer\u00a0o fri arni o&#8217;m profiad i.<\/p>\n<h2>Cleddyf deufin cystadlu<\/h2>\n<p>Rydw i&#8217;n mwynhau cymryd rhan mewn talyrnau a pherfformio&#8217;n fyw, ond &#8216;tydw i\u00a0ddim yn\u00a0fardd cystadleuol\u00a0iawn, yn enwedig pan ddaw i gystadlu mewn eisteddfodau. Rydw i&#8217;n llawer mwy cyfforddus yn cyfansoddi o reddf ac awydd nac er mwyn comisiwn neu gystadleuaeth. Ond eto heb gomisiwn neu gystadleuaeth, mae rhywun yn gorffwys ar eu rhwyfau, yn methu ymarfer eu crefft yn ddigonol. Cleddyf deufin ydyw felly.<\/p>\n<p>Rhaid cofio fod\u00a0cystadlu mewn talyrnau ac ymrysonau hefyd yn dod \u00e2 beirdd ynghyd i drafod a mwynhau eu crefft. Ar lefel gwbl sylfaenol ni ellir gwadu hawl beirdd i fwynhau yr hyn y mae nifer fawr ohonynt yn ei wneud yn eu hamser sb\u00e2r!<\/p>\n<h2>Cystadlu yn cyfyngu cynulleidfa?<\/h2>\n<p>Cododd un pwnc pellach yn sgil sylw a ddaeth ar Twitter.<\/p>\n<blockquote class=\"twitter-tweet\" data-width=\"500\" data-dnt=\"true\">\n<p lang=\"cy\" dir=\"ltr\">Cytuno. Mae ein &#39;beirdd&#39; jyst yn siarad gyda &#39;beirdd&#39; eraill. Mae darllen gwaith &#39;beirdd&#39; yn aml fel byd hollol wahanol i mi!<\/p>\n<p>&mdash; He\u00f0 Gwynfor (@heddgwynfor) <a href=\"https:\/\/twitter.com\/heddgwynfor\/status\/804447739517898752?ref_src=twsrc%5Etfw\">December 1, 2016<\/a><\/p><\/blockquote>\n<p><script async src=\"https:\/\/platform.twitter.com\/widgets.js\" charset=\"utf-8\"><\/script><\/p>\n<p>Dwi ddim yn meddwl fod hyn yn gwbl wir, a\u00a0pheth peryg yw cyffredinoli. Ond nid wyf yn credu mai sylw cwbl ddi-sail yw hwn ychwaith. A oes perygl i\u00a0feirdd, yn eu cyrch am gadeiriau a chlod, fynd i siarad \u00e2 nhw&#8217;u hunain\u00a0yn eu fforymau eu hunain, heb\u00a0siarad \u00e2 chynulleidfa ehangach tybed?<\/p>\n<p>Ynteu ai&#8217;r broblem efallai yw bod barddoniaeth yn methu croesi o gloriau llyfrau neu furiau&#8217;r babell l\u00ean yn ddigon aml i fod yn berthnasol i&#8217;r cyhoedd? Yn methu uniaethu\u00a0\u00e2&#8217;u profiadau bob dydd, eu dyheadau a&#8217;u hunaniaeth. Mae cywiro hynny yn fater ehangach\u00a0na chyhoeddi ambell gerdd ar y we, neu ar Twitter.<\/p>\n<h2>Beirdd perthnasol<\/h2>\n<p>Mewn byd lle rydan ni yn gweld mewn modd go amrwd be sy&#8217;n gallu digwydd pan fo pobl yn teimlo&#8217;n ddi-rym ac yn ddigynrychiolaeth, a oes peryg i&#8217;r beirdd fynd yr un ffordd \u00e2&#8217;r gwleidyddion? Eu bod yn cynnal disgwrs \u00e2&#8217;u hunain, a hwnnw&#8217;n ymddangos yn\u00a0gwbl amherthnasol i drwch y boblogaeth? Byddai anwybyddu&#8217;r ddadl honno&#8217;n beryclach peth na&#8217;i hwynebu. Mae trafodaeth i&#8217;w chael a digon o lwyfannau a bocsys sebon i lefaru barn, a dylem ymroi iddi i wyntyllu<\/p>\n<ul>\n<li>beth yw pwrpas\u00a0y ffurf hwn ar gelfyddyd yn y Gymru\u00a0\u00f4l-Brexit?<\/li>\n<li>sut mae datblygu ein holl feirdd, yn eu holl amrywiaeth, i&#8217;w llawn botensial?<\/li>\n<li>sut mae sicrhau fod barddoniaeth yn parhau&#8217;n berthnasol yn yr unfed ganrif ar hugain?<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae teitl yr erthygl hon yn fwriadol bryfoclyd (er bod rhaid imi gyfaddef fod\u00a0ffetishau beirdd Cymru yn destun deniadol i erthygl arall yn y dyfodol!). Ond mae llawer o&#8217;r hyn sy&#8217;n llechu o dan y pennawd yn bynciau go allweddol, sy&#8217;n werth mynd i&#8217;r afael \u00e2 nhw.<\/p>\n<p style=\"text-align: center;\"><strong>Gan fy mod yn well yn codi cwestiynau na&#8217;u hateb, a \u0175yr rhywun lle mae dechrau? Gadewch sylw isod.<\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>A ydi cystadlu barddol mewn eisteddfod neu dalwrn yn rhan annatod o fod yn fardd Cymraeg heddiw? Ynteu a ydyn ni wedi creu ffetish o&#8217;r syniad o gystadlu ar seiliau traddodiadau eisteddfodol diweddar a thraddodiadau mwy\u00a0hynafol? Byddaf yn trafod hyn yng ngoleuni dyfyniad diddorol iawn gan Alan Llwyd a gyflwynwyd ar bodlediad Clera n\u00f4l ym [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":1308,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_uag_custom_page_level_css":"","site-sidebar-layout":"default","site-content-layout":"","ast-site-content-layout":"default","site-content-style":"default","site-sidebar-style":"default","ast-global-header-display":"","ast-banner-title-visibility":"","ast-main-header-display":"","ast-hfb-above-header-display":"","ast-hfb-below-header-display":"","ast-hfb-mobile-header-display":"","site-post-title":"","ast-breadcrumbs-content":"","ast-featured-img":"","footer-sml-layout":"","theme-transparent-header-meta":"","adv-header-id-meta":"","stick-header-meta":"","header-above-stick-meta":"","header-main-stick-meta":"","header-below-stick-meta":"","astra-migrate-meta-layouts":"default","ast-page-background-enabled":"default","ast-page-background-meta":{"desktop":{"background-color":"var(--ast-global-color-4)","background-image":"","background-repeat":"repeat","background-position":"center center","background-size":"auto","background-attachment":"scroll","background-type":"","background-media":"","overlay-type":"","overlay-color":"","overlay-opacity":"","overlay-gradient":""},"tablet":{"background-color":"","background-image":"","background-repeat":"repeat","background-position":"center center","background-size":"auto","background-attachment":"scroll","background-type":"","background-media":"","overlay-type":"","overlay-color":"","overlay-opacity":"","overlay-gradient":""},"mobile":{"background-color":"","background-image":"","background-repeat":"repeat","background-position":"center center","background-size":"auto","background-attachment":"scroll","background-type":"","background-media":"","overlay-type":"","overlay-color":"","overlay-opacity":"","overlay-gradient":""}},"ast-content-background-meta":{"desktop":{"background-color":"var(--ast-global-color-5)","background-image":"","background-repeat":"repeat","background-position":"center center","background-size":"auto","background-attachment":"scroll","background-type":"","background-media":"","overlay-type":"","overlay-color":"","overlay-opacity":"","overlay-gradient":""},"tablet":{"background-color":"var(--ast-global-color-5)","background-image":"","background-repeat":"repeat","background-position":"center center","background-size":"auto","background-attachment":"scroll","background-type":"","background-media":"","overlay-type":"","overlay-color":"","overlay-opacity":"","overlay-gradient":""},"mobile":{"background-color":"var(--ast-global-color-5)","background-image":"","background-repeat":"repeat","background-position":"center center","background-size":"auto","background-attachment":"scroll","background-type":"","background-media":"","overlay-type":"","overlay-color":"","overlay-opacity":"","overlay-gradient":""}},"footnotes":""},"categories":[],"tags":[847],"persona":[],"class_list":["post-1257","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","tag-crefft-barddoniaeth"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cystadlu: Hanfod y grefft yntau ffetish beirdd Cymru? | Osian Rhys Jones<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"A ydi cystadlu barddol mewn eisteddfod neu dalwrn yn rhan annatod o fod yn fardd Cymraeg heddiw? Ynteu a ydyn ni wedi creu ffetish o&#039;r syniad o gystadlu?\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/osian.cymru\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cystadlu: Hanfod y grefft yntau ffetish beirdd Cymru? | Osian Rhys Jones\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"A ydi cystadlu barddol mewn eisteddfod neu dalwrn yn rhan annatod o fod yn fardd Cymraeg heddiw? Ynteu a ydyn ni wedi creu ffetish o&#039;r syniad o gystadlu?\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/osian.cymru\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Osian Rhys Jones\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/OsianRhysJones\" \/>\n<meta property=\"article:author\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/OsianRhysJones\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2016-12-04T16:00:45+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-12-01T19:04:11+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Nid-cystadlu-yw-popeth.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"716\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"600\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Osian\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@osianrhysjones\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@osianrhysjones\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Osian\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"8 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Osian\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/0a7628089d3511e709a0302e87073b7f\"},\"headline\":\"Cystadlu barddol: hanfod y grefft yntau ffetish y beirdd?\",\"datePublished\":\"2016-12-04T16:00:45+00:00\",\"dateModified\":\"2025-12-01T19:04:11+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\\\/\"},\"wordCount\":1514,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/0a7628089d3511e709a0302e87073b7f\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/osiandotcymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2016\\\/12\\\/Nid-cystadlu-yw-popeth.png\",\"keywords\":[\"Crefft barddoniaeth\"],\"inLanguage\":\"en-US\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\\\/\",\"name\":\"Cystadlu: Hanfod y grefft yntau ffetish beirdd Cymru? | Osian Rhys Jones\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/osiandotcymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2016\\\/12\\\/Nid-cystadlu-yw-popeth.png\",\"datePublished\":\"2016-12-04T16:00:45+00:00\",\"dateModified\":\"2025-12-01T19:04:11+00:00\",\"description\":\"A ydi cystadlu barddol mewn eisteddfod neu dalwrn yn rhan annatod o fod yn fardd Cymraeg heddiw? Ynteu a ydyn ni wedi creu ffetish o'r syniad o gystadlu?\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"en-US\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/osiandotcymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2016\\\/12\\\/Nid-cystadlu-yw-popeth.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/osiandotcymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2016\\\/12\\\/Nid-cystadlu-yw-popeth.png\",\"width\":716,\"height\":600,\"caption\":\"Cystadlu barddol: hanfod y grefft ynteu ffetish y beirdd?\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Hafan\",\"item\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/en\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cystadlu barddol: hanfod y grefft yntau ffetish y beirdd?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/\",\"name\":\"Osian Rhys Jones\",\"description\":\"Poet and content designer\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/0a7628089d3511e709a0302e87073b7f\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"en-US\"},{\"@type\":[\"Person\",\"Organization\"],\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/0a7628089d3511e709a0302e87073b7f\",\"name\":\"Osian\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/osiandotcymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2017\\\/07\\\/Osian-Rhys-Jones-Gwe-1.jpg\",\"url\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/osiandotcymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2017\\\/07\\\/Osian-Rhys-Jones-Gwe-1.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/osiandotcymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2017\\\/07\\\/Osian-Rhys-Jones-Gwe-1.jpg\",\"width\":902,\"height\":600,\"caption\":\"Osian\"},\"logo\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/osian.cymru\\\/osiandotcymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2017\\\/07\\\/Osian-Rhys-Jones-Gwe-1.jpg\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/www.facebook.com\\\/OsianRhysJones\",\"https:\\\/\\\/x.com\\\/osianrhysjones\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cystadlu: Hanfod y grefft yntau ffetish beirdd Cymru? | Osian Rhys Jones","description":"A ydi cystadlu barddol mewn eisteddfod neu dalwrn yn rhan annatod o fod yn fardd Cymraeg heddiw? Ynteu a ydyn ni wedi creu ffetish o'r syniad o gystadlu?","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/osian.cymru\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Cystadlu: Hanfod y grefft yntau ffetish beirdd Cymru? | Osian Rhys Jones","og_description":"A ydi cystadlu barddol mewn eisteddfod neu dalwrn yn rhan annatod o fod yn fardd Cymraeg heddiw? Ynteu a ydyn ni wedi creu ffetish o'r syniad o gystadlu?","og_url":"https:\/\/osian.cymru\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\/","og_site_name":"Osian Rhys Jones","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/OsianRhysJones","article_author":"https:\/\/www.facebook.com\/OsianRhysJones","article_published_time":"2016-12-04T16:00:45+00:00","article_modified_time":"2025-12-01T19:04:11+00:00","og_image":[{"width":716,"height":600,"url":"https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Nid-cystadlu-yw-popeth.png","type":"image\/png"}],"author":"Osian","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@osianrhysjones","twitter_site":"@osianrhysjones","twitter_misc":{"Written by":"Osian","Est. reading time":"8 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/osian.cymru\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/osian.cymru\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\/"},"author":{"name":"Osian","@id":"https:\/\/osian.cymru\/#\/schema\/person\/0a7628089d3511e709a0302e87073b7f"},"headline":"Cystadlu barddol: hanfod y grefft yntau ffetish y beirdd?","datePublished":"2016-12-04T16:00:45+00:00","dateModified":"2025-12-01T19:04:11+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/osian.cymru\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\/"},"wordCount":1514,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/osian.cymru\/#\/schema\/person\/0a7628089d3511e709a0302e87073b7f"},"image":{"@id":"https:\/\/osian.cymru\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Nid-cystadlu-yw-popeth.png","keywords":["Crefft barddoniaeth"],"inLanguage":"en-US","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/osian.cymru\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/osian.cymru\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\/","url":"https:\/\/osian.cymru\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\/","name":"Cystadlu: Hanfod y grefft yntau ffetish beirdd Cymru? | Osian Rhys Jones","isPartOf":{"@id":"https:\/\/osian.cymru\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/osian.cymru\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/osian.cymru\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Nid-cystadlu-yw-popeth.png","datePublished":"2016-12-04T16:00:45+00:00","dateModified":"2025-12-01T19:04:11+00:00","description":"A ydi cystadlu barddol mewn eisteddfod neu dalwrn yn rhan annatod o fod yn fardd Cymraeg heddiw? Ynteu a ydyn ni wedi creu ffetish o'r syniad o gystadlu?","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/osian.cymru\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\/#breadcrumb"},"inLanguage":"en-US","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/osian.cymru\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-US","@id":"https:\/\/osian.cymru\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\/#primaryimage","url":"https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Nid-cystadlu-yw-popeth.png","contentUrl":"https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Nid-cystadlu-yw-popeth.png","width":716,"height":600,"caption":"Cystadlu barddol: hanfod y grefft ynteu ffetish y beirdd?"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/osian.cymru\/cystadlu-barddol-hanfod-ffetish\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Hafan","item":"https:\/\/osian.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cystadlu barddol: hanfod y grefft yntau ffetish y beirdd?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/osian.cymru\/#website","url":"https:\/\/osian.cymru\/","name":"Osian Rhys Jones","description":"Poet and content designer","publisher":{"@id":"https:\/\/osian.cymru\/#\/schema\/person\/0a7628089d3511e709a0302e87073b7f"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/osian.cymru\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"en-US"},{"@type":["Person","Organization"],"@id":"https:\/\/osian.cymru\/#\/schema\/person\/0a7628089d3511e709a0302e87073b7f","name":"Osian","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-US","@id":"https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/Osian-Rhys-Jones-Gwe-1.jpg","url":"https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/Osian-Rhys-Jones-Gwe-1.jpg","contentUrl":"https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/Osian-Rhys-Jones-Gwe-1.jpg","width":902,"height":600,"caption":"Osian"},"logo":{"@id":"https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/Osian-Rhys-Jones-Gwe-1.jpg"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/OsianRhysJones","https:\/\/x.com\/osianrhysjones"]}]}},"uagb_featured_image_src":{"full":["https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Nid-cystadlu-yw-popeth.png",716,600,false],"thumbnail":["https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Nid-cystadlu-yw-popeth-477x400.png",220,184,true],"medium":["https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Nid-cystadlu-yw-popeth-477x400.png",400,335,true],"medium_large":["https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Nid-cystadlu-yw-popeth-768x644.png",768,644,true],"large":["https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Nid-cystadlu-yw-popeth-716x600.png",716,600,true],"1536x1536":["https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Nid-cystadlu-yw-popeth.png",716,600,false],"2048x2048":["https:\/\/osian.cymru\/osiandotcymru\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Nid-cystadlu-yw-popeth.png",716,600,false]},"uagb_author_info":{"display_name":"Osian","author_link":"https:\/\/osian.cymru\/en\/author\/osianrhysjones\/"},"uagb_comment_info":0,"uagb_excerpt":"A ydi cystadlu barddol mewn eisteddfod neu dalwrn yn rhan annatod o fod yn fardd Cymraeg heddiw? Ynteu a ydyn ni wedi creu ffetish o&#8217;r syniad o gystadlu ar seiliau traddodiadau eisteddfodol diweddar a thraddodiadau mwy\u00a0hynafol? Byddaf yn trafod hyn yng ngoleuni dyfyniad diddorol iawn gan Alan Llwyd a gyflwynwyd ar bodlediad Clera n\u00f4l ym&hellip;","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1257","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1257"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1257\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3422,"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1257\/revisions\/3422"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1308"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1257"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1257"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1257"},{"taxonomy":"persona","embeddable":true,"href":"https:\/\/osian.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/persona?post=1257"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}