Pigion y Talwrn

Pigion y Talwrn: Cerddi gorau’r cyfresi diweddar

Yn ddiweddar iawn daeth o’r wasg gyfrol newydd yng nghyfres Pigion y Talwrn, a’i golygydd ydi Meuryn cyfres Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru, Ceri Wyn Jones.

Cyfres hen, diwyg newydd

Mae fy silffoedd i adref yn llawn o gyfrolau pigion y Talwrn yr ydw i wedi eu prynu neu ddod o hyd iddynt ar amrywio silffoedd llyfrau yn y teulu. (Ydw, rydw i un o’r rhai hynny sy’n ‘benthyg’ llyfrau yn lled-barhaol).

Ers 2010 penderfynwyd newid y diwyg unffurf a oedd ar gloriau’r cyfrolau cynnar. Da o beth yw hynny yn fy marn i, gan fod y llwyd yn atgoffa rhywun o syllu i’r awyr ar bnawniau Sadwrn diflas o Dachwedd ym maes parcio B & Q, tra bod Dad yn y siop yn prynu papur sandio.

Y Cynnwys

Nodir fod yn y gyfrol hon “dros dri chant a hanner o gerddi a chwpledi, a hynny gan dros gant o feirdd”. Mae holl amrywiaeth tasgau’r Talwrn hefyd wedi cael eu cynnwys yma, sef popeth “o drydargerddi i dribannau beddargraff, o limrigau i englynion, mae’r traddodiadol a’r cyfoes, y dwys a’r digri”.

Gallwch felly ddisgwyl cerddi gan bob bardd gwerth ei halen yng Nghymru heddiw. Ac ambell un gan rai gwael fel y fi.

Y Meuryn a Syr Alex

Dyma’r gyfrol gyntaf yn y gyfres dan olygyddiaeth Ceri Wyn Jones, a ddaeth i lenwi sedd y Meuryn yn Ionawr 2012. Prin felly y gellid ei alw yn ‘newydd’ i’r swydd! Ond dyma ei bigion ef o gynnyrch y gyfres rhwng hynny ac Awst 2016.

Bu ymdrechion Manchester United i lenwi sedd Syr Alex Ferguson yn bur drychinebus hyd yn hyn, felly da o beth yw fod y BBC wedi gwneud gwell tro o lenwi sedd Gerallt Lloyd Owen. Bu yntau yn gyfrifol am bron pob un o’r 12 cyfrol blaenorol a ddaeth yng nghyfres Pigion y Talwrn.

Ofergoeliaeth?

Sylwer hefyd mai dyma’r gyfrol gyntaf sy’n ymddangos heb iddi rif yn y gyfres.

‘Pigion y Talwrn 12’ oedd enw cyfrol olaf golygyddiaeth Gerallt Lloyd Owen. Ond nid ‘Pigion y Talwrn 13’ yw cyfrol gyntaf golygyddiaeth Ceri Wyn Jones. Pam tybed? A benderfynwyd ymwrthod â’r confensiwn rhifo yn barhaol? Ynteu ydi’r Meuryn y math o ofergoeliwr sy’n cario lwmp o lo yn ei boced wrth deithio o dalwrn i dalwrn, rhag anlwc?

Prynu Pigion y Talwrn

Mae modd cael gafael ar y gyfrol hon yn eich siop lyfrau Cymraeg lleol neu ar wefan Gwales. Os byddwch chi’n archebu o wefan Gwales, cofiwch y bydd angen lli gadwyn i agor y bocs y daw’r gyfrol ynddi!

Ewch i brynu Pigion y Talwrn heddiw

 

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *