
Mae’r Glêr yn dîm ar gyfres radio Y Talwrn ac hefyd yn cymryd rhan mewn ymrysonau a heriau.
Aelodau’r Glêr
Mae tri aelod yn y tîm ar hyn o bryd:
- Eurig Salisbury
- Hywel Griffiths
- Osian Rhys Jones
Roedd Iwan Rhys hefyd yn aelod tan 2018.
Hanes ac atgofion
Os yw fy fy nghof yn gywir, rydw i wedi bod yn aelod o’r Glêr ers misoedd gaeaf 2004/2005. Roeddwn yn fyfyriwr yn Aberystwyth ar y pryd.
Roedd fy ngornest gyntaf ar y Talwrn yn Llanbrynmair. Ni chofiaf yn erbyn pwy, ond buom yn fuddugol y noson honno. Cofiaf hefyd i Gerallt roi naw a hanner hael iawn i gân a thelyneg gan newydd-ddyfodiad.
Rydym wedi ennill cyfres y Talwrn ar BBC Radio Cymru ddwy waith.

Cwmni beirdd
Dros y blynyddoedd bûm yn ffodus iawn ddysgu a rhannu wrth ochr cystal beirdd a chyfellion â beirdd y Glêr.
Rydym wedi teithio led-led y wlad i ymrysona, stompiau a thalyrnau. Y ni oedd y 4 cyntaf i wneud Her 100 cerdd Llenyddiaeth Cymru.
Rydym wedi mynd o fod yn feirdd ifanc addawaol i fod yn llai ifanc a llai addawol. Ond rydym, dwi’n gobeithio, yn fwy llwyddiannus.
Gwobrau
Dyddiad: 4 August, 2018
Enillais Dlws Coffa Cledwyn Roberts am delyneg orau cyfres 2017 o’r Talwrn gyda cherdd a gyda’r gerdd “Blinder”.
Dyddiad: 5 August, 2017
Roeddwn yn rhan o dîm Y Glêr – a enillodd gyfres y Talwrn yn 2017.
Dyddiad: 4 August, 2012
Roeddwn yn rhan o dîm Y Glêr – a enillodd gyfres y Talwrn yn 2012.
Dyddiad: 6 August, 2011
Enillais Dlws Coffa Cledwyn Roberts am delyneg orau cyfres 2011 o’r Talwrn gyda cherdd a elwir bellach yn “The Man Who Sold the World”.
Gigs
Dyddiad: 11 September, 2008
Lleoliad: Y Cŵps, Aberystwyth
Un o nosweithiau chwedlonol Y Glêr pan roddwyd noson o adloniant barddol i gynadleddwyr y blaid. Perfformiais gerdd o fawl i Elfyn Llwyd ar y noson.
