Yn gynharach eleni bu farw David Griffith Jones, neu Selyf, fel y byddai’r helyw yn ei adnabod.
Roedd Selyf wrth gwrs athro cerdd dant ac yn un o hoelion wyth cerddorol Eifionydd. Fe sefydlodd Gôr Meibion Dwyfor, ac fe hyfforddodd neb llai na Bryn Terfel yng nghrefft cerdd dant.
Cafwyd teyrngedau iddo yn rhifyn mis Mai eleni o bapur bro Eifionydd, Y Ffynnon.
Yncl Defi
Ond fel Yncl Defi yr oeddwn i a’m teulu yn ei adnabod. Roedd yntau ac Anti Vera yn byw yng Ngarndolbenmaen.
Yr oedd yn frawd i’m taid Hugh, a’u cartref hwythau ym Mryn Selyf, Llangybi, Eifionydd.
Yr oedd y teulu yn sicir yn ymwneud â’r Pethe Cymraeg, ac englyna a barddoniaeth gwlad yn rhan o’u hetifeddiaeth. Daeth storfa o lyfrau trwy law fy nhaid a berthynai i’w dad (fy hen daid i), a llawer o ganu gwlad wedi eu hysgrifennu yn y tudalennau gweigion.
Cofiaf weld un tro englyn i waith Cybi ar enedigaeth fy nhaid yn 1917. Ni chofiaf fawr o’r englyn am y rheswm nad oedd yn englyn da iawn. Sori, Cybi. Ond fe ddof o hyd iddo pan af i’r gogledd nesaf.
Selyf y bardd
Fe welais, un tro englyn o waith Yncl Defi mewn rhifyn o’r Ffynnon. Cofiaf iddo fod yn englyn esboniadol digon cymen yn disgrifio’r wy, a’r llinell glo oedd “yn dynn o’i rownd, dyna’r wy”.
Mae dros bymtheg mlynedd ers i mi ddarllen yr englyn. Os oes rhywun yn ei chofio’n llawn, neu gyda chopi wrth law, rhowch wybod i mi.
Teyrnged i Selyf, ac i Yncl Defi
Ces innau’r fraint i ysgrifennu teyrnged fach fy hunan i’w roi’n Y Ffynnon, a diolchaf i Dewi Jones am y cynnig a’r cyfle.
Rhwng Bryn Selyf, ar odre Garn Bentyrch a’i gartref gydag Anti Vera yng Ngarndolbenmaen mae ynys wastad o dir yn ymestyn o Langybi hyd at Lecheiddior, a Mynydd Cennin yn cadw golwg o’r gogledd. Ond peidiwn ag ofni’r copaon hyn, y mae nhw’n llefydd cadarn i ni ddwyn nerth ohonynt yn ein cystudd.
O Garn i Garn syrth gwaddod y nodau
I’n tewi fel niwl. Ond taflwn olau,
tra bod Dwyfor llawn cwmnïaeth corau,
am y meini hyn. A mynnwn ninnau,
o Fryn Selyf, yr hen seiliau i’r gân,
a nerth i’w hyngan trwy darth ei hangau.