Wrth i 2016 dynnu at ei derfyn (a hen bryd hefyd, yn nhyb rhai) dyma olwg ar dri pheth a fydd yn newid marchnata digidol yn 2017.
Mae marchnata digidol, a gwaith gyda’r cyfryngau cymdeithasol yn enwedig, yn newid yn barhaus. Mae rhagweld beth sy’n dod nesaf yn beth anodd tu hwnt. Ond yn seiliedig ar fy mhrofiad i, dyma dri pheth fydd yn newid marchnata digidol yn 2017 na ddylech eu hosgoi.
1. Cynnwys fideo
Dyma’r un amlwg heb os. Dyma ambell ffaith (sy’n dod o arolwg diweddar Buffer o bobl sy’n gweithio ym maes cyfryngau cymdeithasol):
- Mae dros 60% o weithwyr marchnata eisoes yn defnyddio fideo fel rhan o’u gwaith
- Yn fwy arwyddocaol, mae 73% yn dymuno cynyddu eu cynnwys fideo
- Mae 50% yn bwriadu defnyddio fideo byw ar blatfformau fel Facebook Live
Mae hyn yn ddealladwy. Mae platfformau fel Facebook yn rhoi mwy o sylw i’r fath gynnwys, ac yn ei roi o flaen rhagor o gynulleidfa na chynnwys ‘traddodiadol’ fel testun, llun neu ddolen. Ond fydd hyn ddim yn para am byth, chwaith. Mae’r haearn yn boeth ar hyn o bryd, felly dyma’r adeg i ymuno’n yr hwyl.
Wedi dweud hyn, mae cynnwys fideo yn anodd i’w greu yn gyson ac yn safonol i’r mwyafrif o bobl sy’n creu cynnwys digidol.
Yn yr arolwg y cyfeiriaf ato uchod, dywedodd 83% o farchnatwyr eu bod yn dymuno creu rhagor o fideo pe na bai cymaint o gyfyngiadau amser ac adnoddau arnynt.
Yr ateb i hyn yw penderfynu nawr beth fydd eich blaenoriaeth ar gyfer cynnwys fideo yn 2017. Glynwch at un peth a’i wneud yn dda. Dewisiwch un platfform (YouTube neu Facebook Live er enghraifft) os yw’n gwneud pethau’n haws i ganolbwyntio’ch hegnïon mewn un lle. Peidiwch â cheisio ei dal hi ymhob man.
2. Esblygiad yr algorithm
Bydd hwn yn newid llawer fwy cynnil i ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol – Facebook, Twitter ac Instagram yn enwedig. Ond bydd yn cael effaith bellgyrhaeddol ar beth fydd pobl yn ei weld yn eu ffrwd. A bydd yn rhaid i bobl sy’n creu cynnwys feddwl yn ofalus am werth y cynnwys y mae nhw’n ei gynnig i’r defnyddwyr.
Mae algorithm Facebook wedi newid ers tro – a bydd ceidwaid tudalennau Facebook eisoes wedi gweld eu cynnwys yn cyrraedd llai a llai o gynulleidfa yn organig. Dyma beth sy’n dechrau digwydd gyda Instagram a Twitter hefyd.
Beth mae hyn oll yn ei olygu? Yn y bôn, cynnydd yng ngrym Facebook, Twitter a Google i benderfynu beth sy’n cael ei arddangos i ddefnyddwyr. A chynnydd yn eu gallu i godi tâl i roi cynnwys o flaen eu defnyddwyr. Gelwir hyn yn aml ganddynt yn ‘glirio’r llwch’, neu ‘dim ond dangos be sy’n bwysig’.
Dyma’r effaith fwyaf pellgyrhaeddol yn maes marchnata digidol yn 2017. Bydd yn dipyn o her i ymateb i hyn, a bydd rhaid bod yn barod i ymateb yn eich strategaeth cynnwys digidol.
Bydd cynnwys unigryw, sy’n byw ar dir ceidwaid y tollbyrth, ac felly byddan nhw yn dod yn fwy dylanwadol…
3. Bydd angen trin pob platfform fel gwefan unigryw
Mae’n gyffredin defnyddio cyfryngau cymdeithasol er mwyn gyrru traffig i’ch gwefan, a theimlo bod yn rhaid i’ch gwefan gynnwys popeth yn annibynnol. Atodiad felly yw’r cyfryngau cymdeithasol.
Ond oherwydd y ‘tollbyrth’ sy’n cael eu codi rhwng cynnwys a chynnulleidfa, dydi hyn ddim yn mynd i fod yn ddigon yn 2017.
Bydd yn rhaid i chi drin eich tudalen Facebook, proffil Instagram a phroffil Twitter fel cyrchfannau unigol, sydd yr un mor bwysig â’ch gwefan. Ystyriwch pa gynnwys sy’n unigryw i bob platfform.
Mae’n debyg iawn mai llai a llai o bobl a ddaw i’ch gwefan yn 2017. Bydd Google a Facebook yn talu rhagor o sylw i gynnwys sydd ar eu platfformau nhw yn hytrach na dolenni i wefannau eraill. Meddyliwch pa bethau sy’n rhaid iddynt fod ar eich gwefan, a pha bethau sy’n well eu cynnig ar y cyfryngau cymdeithasol. Oni bai fod gwerth unigryw i bob platfform yn annibynnol ar ei gilydd, bydd eich hymdrechion yn mynd yn ofer.
Croeso i fyd marchnata digidol yn 2017
Dyna fy marn gryno i, ar beth fydd yr heriau sy’n ein wynebu ni sy’n gwneud gwaith marchnata digidol yn 2017.
2017 fydd y flwyddyn lle bydd rhaid creu llai o gynnwys yn gyffredinol, ond creu cynnwys unigryw a chrefftus, gan ganolbwyntio’ch hymdrechion ar y mannau pwysig.
Ydych chi’n barod?