Y dyddiau hyn mae’n hawdd esgeuluso’r rhesymau pam fod marchnata ebost yn bwysig. Pan gyrhaeddodd y ‘peth sgleiniog newydd’ hwnnw – y cyfryngau cymdeithasol – anghofiodd nifer o farchnatwyr am eu rhestr bostio. Onid oedd bellach ffordd well, gyflymach a mwy cŵl o gyfathrebu na gyrru cylchlythyr? Nid ydw i’n dweud nad ydy dulliau pobl […]
Gwirio’ch Gwefan: Sut i ysgrifennu copi addas
Er mwyn hoelio sylw eich defnyddwyr ar eich gwefan, mae angen ysgrifennu copi addas ar gyfer y cyfrwng. Bydd yr erthygl fer yma yn rhoi trosolwg syml ar yr hyn y gallwch chi wneud er mwyn arfer ysgrifennu copi addas nad yw’n blino neu’n syrffedu eich darllenwyr. Pam ysgrifennu copi addas? Onid yw’n bosib defnyddio’r copi […]
Defnyddio Google Analytics i wella cynnwys
Ar ddechrau’r flwyddyn yn 2017 un o fy addewdion proffesiynol oedd dod yn arbenigwr (neu arbenigo fwy, o leiaf!) ar grefft defnyddio Google Analytics. Y nod oedd dysgu fwy am effaith y cynnwys yr ydw a’m cydweithiwyr yn ei greu ar gyfer gwefannau, yn ogystal â mesur effeithiolrwydd strwythur y wefan effeithiolrwydd ymgyrchoedd ebost a chyfryngau […]
Beth yw dyfodol y we agored?
Yr wythnos hon dwi wedi bod yn pendroni beth yw dyfodol y we agored? A lle ydym ni am fod yn cyhoeddi ein cynnwys digidol yn y dyfodol hwnnw? Yn ddiweddar fe ddois ar draws erthygl ddiddorol iawn ar wefan The Verge, a oedd y trafod sut aethant hwy ati i i ddiweddaru eu cynnwys ar-lein, gan ail-drefnu’r jig-sô […]
Buddion blogio i fusnes
Ydych chi erioed wedi ystyried beth yw buddion blogio i fusnes? Gall cynnal blog agor drysau i chi greu cynnwys amserol a pherthnasol, sy’n cyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol. Ychydig flynyddoedd yn ôl, credai llawer fod blogio ar fin dod i ben, a’r ffasiwn wedi newid yn sgil dyfodiad y cyfryngau cymdeithasol. Ond nid felly. Mae blogio yn […]
Pam na ddylid defnyddio mapiau ar eich gwefan
Dros y blynyddoedd mae defnyddio mapiau ar wefannau i gyflwyno gwybodaeth yn weledol wedi bod yn dechneg go gyffredin. A heddiw, byddaf fi, wrth drafod datblygu cynnwys gyda chydweithwyr, yn dal i glywed yn aml yr awgrym “beth am inni gyflwyno [hyn neu’r llall] trwy gyfrwng map?” Mae’n bryd felly gosod fy mhin innau ar fy […]