Gwirio’ch Gwefan: Sut i ysgrifennu copi addas

Er mwyn hoelio sylw eich defnyddwyr ar eich gwefan, mae angen ysgrifennu copi addas ar gyfer y cyfrwng. Bydd yr erthygl fer yma yn rhoi trosolwg syml ar yr hyn y gallwch chi wneud er mwyn arfer ysgrifennu copi addas nad yw’n blino neu’n syrffedu eich darllenwyr.

Pam ysgrifennu copi addas?

Onid yw’n bosib defnyddio’r copi sydd gennych eisoes ar gyfer y datganiad i’r wasg – neu’r bamffled a grëwyd yn ddiweddar – er mwyn arbed amser? Gallwch, fe allwch chi gopïo a gludo yr un copi, ond mae hyn yn gamgymeriad mawr.

O lwyddo i gael defnyddwyr i ddod i’ch gwefan chi (sydd yn mynd yn orchwyl anoddach fel yr â rhagor o amser pobl ar-lein ar gyfryngau cymdeithasol), mae’n rhaid rhoi profiad gorau posib iddynt.

Yn y bôn, mae pobl eisiau cyflawni tasg yn sydyn ac yn syml ar eich gwefan. Nid ydynt eisiau pori yn hir a dyfalu lle mae dod o hyd i gynnwys.

Arferion hawdd eu dysgu

Mae’n debyg y byddaf yn swnio fel tôn gron ar y wefan hon, ond mae’n bwynt pwysig. Cyn dechrau creu unrhyw ddarn o gynnwys gofynnwch i chi eich hun:

  • Pwy? Ar gyfer pwy mae’r cynnwys hwn?  Sut mae ymwneud â’ch cynnwys chi yn mynd i newid eu byd er gwell?
  • Beth? Beth mae’n nhw eisiau ei gyflawni ar eich gwefan? Beth yw’r prif dasgau?
  • Sut? Pa gamau mae’n rhaid iddynt eu cymryd i gyflawni tasg ar y wefan? Pa fath o brofiad a gynigir iddynt?

Ystyriwch y rhain am fymryn bach. Rhowch eich hun yn esgidiau’r defnyddwyr; meddyliwch am wefan yr ydych chi yn ei defnyddio yn aml. Hawdd wedyn yw gweld bod angen ysgrifennu copi addas i dywys defnyddwyr i’r lle cywir.

Fformat eich copi

Rhan hanfodol o’ch copi digidol yw sut mae’n edrych ar y sgrin. Mae’n angenrheidiol eich bod yn cynnwys tri pheth o leiaf, sef:

  • Isbenawdau defnyddiol
  • Brawddegau byrion, yn hytrach na rhai amlgymalog
  • Paragraffau byrion, heb fod yn hwy na dwy neu dair brawddeg.

Y nod yw torri’r testun ddarnau sy’n hawdd i’r llygad, ac yn tywys llygad y defnyddiwr. Mae pobl yn tueddu i sganio (neu sgrolio ar sgrin ffôn) i ddod o hyd i’r wybodaeth gywir, yn hytrach na darllen pob dim. Mae technegau eraill fel defnyddio rhestrau ac amlygu geiriau allweddol hefyd yn helpu’r nod.

Iaith eich copi

Defnyddiwch iaith syml, ar ffurf Cymraeg Clir. Os ydych chi’n defnyddio geirfa dechnegol, neu derminoleg niwlog yna buan y bydd defnyddwyr yn diflasu.

Nid gostwng y safon yw hyn ar ryw ras i’r gwaelod. Mae modd mynegi unrhywbeth yn glir a chryno heb ddefnyddio jargon. Mae cau tudalen gwe yn llawer haws nac agor tudalennau geiriadur!

Ewch at y pwynt yn syth

Nid stori ag iddi ddechrau, canol a diwedd neis yw tudalen gwe. Meddyliwch am droi hyn ar ei ben, a dod at y pwynt yn syth, gan esbonio’r cyd-destun a’r amodau wedyn.

Mae ysgrifennu copi addas yn bwysig

Does dim o’i le ar ddefnyddio copi o gyfrwng arall fel sail i’ch copi ar-lein. Ond os felly, mae’n rhaid ei ail-olygu i’ch cyfrwng newydd.

Mae hyn yn swnio fel gwaith ychwanegol, ond os yw’ch gwefan yn bwysig i chi ac i’ch defnyddwyr, yna mae’n hollbwysig treulio amser i’w wneud yn iawn.

Dyma olwg ar rai o’r prif bwyntiau mewn ysgrifennu copi addas i’r we. Oes gennych chi bwyntiau da i’w rhannu? Rhowch wybod yn y sylwadau isod.

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *