Defnyddio Google Analytics i wella cynnwys

Ar ddechrau’r flwyddyn yn 2017 un o fy addewdion proffesiynol oedd dod yn arbenigwr (neu arbenigo fwy, o leiaf!) ar grefft defnyddio Google Analytics.

Y nod oedd dysgu fwy am effaith y cynnwys yr ydw a’m cydweithiwyr yn ei greu ar gyfer gwefannau, yn ogystal â mesur

  • effeithiolrwydd strwythur y wefan
  • effeithiolrwydd ymgyrchoedd ebost a chyfryngau cymdeithasol
  • siwrnai defnyddwyr trwy’r wefan.

Nid erthygl sy’n esbonio ‘sut i wneud’ yw hon, ond yn hytrach un yn ceisio eich perswadio ‘pam’. Mae miloedd o erthyglau ‘sut’ i’w cael ar y we, na allaf i wella arnynt.

Pam mynd i’r ymdrech o fesur yn defnyddio Google Analytics?

Onid trefn draddodiadol marchnata (gan or-gyffredinoli) yw derbyn cyllideb, rhedeg ymgyrch a bras amcangyfrif effaith? Ar gyfer cyfryngau analog, mae hynny yn weddol wir. Y llinyn mesur oedd nifer y gynulleidfa bosib, a p’un ai oedd gwariant o fewn y gyllideb ai peidio.

Heb ei fesur, heb ei fai, gallwch chi ddweud!

Ond mae’n rhyfeddol faint o ddata sydd gennym ar gael i ni heddiw, a llawer iawn o hwnnw am ddim. Mae’n debyg fod llethr dysgu platfformau fel Google Analytics yn serth iawn, ac felly’n gofyn am ymroddiad go sylweddol i dorri’r garw cyntaf cyn gweld y budd.

Y duedd, wrth gwrs yw edrych ar y dangosfwrdd cynta, a gweld bod cymaint ag XXX o bobl wedi ymweld â’r wefan yn y mis diwethaf, a defnyddio’r rheini yn yr un modd ag y defnyddid ystadegau moelion marchnata traddodiadol (megis nifer darllenwyr cylchgrawn neu bapur newydd)

Beth fedrwn ei ddysgu trwy ddadansoddi?

Mae modd defyddio amrediad eang o raglenni i fesur llwyddiannau, ond canolbwyntiaf ar Google Analytics yn yr erthygl hon, am mai dyma’r platfform rhad ac am ddim yn dylai fod gennym oll fynediad ati at ddibenion ein gwefan.

Yr hyn sy’n gwbl amlwg i mi o roi fy nhrwyn ar y maen dadansoddol yn y misoedd diwethaf yw hyn: os ydych chi;’n gweithio yn cynhyrchu unrhyw fath o gynnwys digidol, yn olygydd digidol, neu bod eich gwefan yn ganolog i’ch busnes neu’ch gwerthiannau, ni fedrwch chi lwyddo yn iawn heb ddefnyddio data i’r dibenion chi.

Yr hyn mae defnyddio Google Analytics wedi fy ngalluogi i, fel cynhyrchydd a golygydd digidol, i’w gwneud felly yw:

  1. Gwneud penderfyniadau strategol gwell
  2. Cynllunio gwaith o fis i fis yn ôl blaenoriaeth
  3. Rheoli a gwella holl ystod fy ngwaith trwy ddata (cofiwch y dywediad – Heb ei fesur, heb ei finiogi!)

Beth yw’r pethau pwysicaf felly?

Rŵan, rydw i’n lwcus. Rydw i’n gweithio llawn amser yn cynhyrchu, golygu a mesur effaith cynnwys digidol. Bydd llawer ohonoch chi yn gwneud gwaith arall, ac yn gweld amser cyfyngedig iawn i ymgymryd â gwaith dadansoddi. Dwi’n gwybod hynny gan fy mod wedi bod yn yr un sefyllfa fy hun.

Fe wna i ddangos i chi pa rai yw’r ffrwythau peraf ar y goeden i chi gael elwa mor fuan a phosib. Ond dydi hynny ddim yn gyfystyr â dweud fod hyn i gyd yn hawdd. Trwy wneud y gwaith caled ar y dechrau, mae modd defnyddio yr un adroddiadau wedyn o wythnos i wythnos neu o fis i fis. A hynny er mwyn mesur be sy’n bwysig i’ch busnes chi.

Alla’ i ddim pwysleisio’r pwynt olaf hwnnw yn rhagor, achos dydi amcanion dau fusnes fyth yr un fath, nac amcaniondwy wefan ychwaith. Mae’n rhaid i chi benderfynu yn gyntaf be sydd o bwys i chi, neu’ch busnes.

Oes gennych chi fynediad i’ch cyfrif?

Mae modd mesur fwy neu lai unrhyw beth yn defnyddio Google Analytics, os ydi’r côd wedi ei osod yn gywir ar eich gwefan gan eich datblygwr gwe. Dyma amser da i wirio hynny gyda’ch datblygwr gwe os nad ydych chi’n siwr!

Os oes gennych fynediad i gyfrif Google Analytics eisoes, mae’n debygol fod popeth yn ei le. Os nad oes cyfrif gennych o gwbl, gwiriwch gyda’ch datblygwr gwe unwaith eto.

Enillion hawdd yn defnyddio Google Analytics

Dydi hyn ddim

 

 

Beth rydw i am ei rannu o’r hyn ddysgais:

grwpio cynnwys

segmentation

utm paramedr

api- google sheets

 

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *