Os ydych chi am ehangu cynulleidfa eich tudalen Facebook gallwch wneud hynny trwy ddefnyddio’r teclyn cyhoeddi amlieithog ar Facebook. Bydd hwn yn caniatáu i chi greu negeseuon ar eich tudalen sydd ddim ond yn ymddangos yn newis iaith defnyddwyr Facebook.
 hithau’n Galan Gaeaf, efallai fod yr holl beth yn ymddangos yn hunllefus, ond wir, does dim rhaid ofni yn fan hyn!
Y sefyllfa ohoni
Ar hyn o bryd mae nifer fawr o dudalennau yr ydw i’n eu dilyn yn gwneud un o ddau beth:
- Cyhoeddi negeseuon cwbl annibynnol ar gyfer y ddwy iaith (er enghraifft un yn Gymraeg ac un yn Saesneg)
- Gosod dwy neu ragor o ieithoedd o fewn un neges Facebook
Does yr un o’r rhain yn eu hanfod yn anghywir, ond maent yn achosi problemau hefyd.
Byddai’r opsiwn cyntaf yn golygu llawer o gynnwys dyblyg ar eich tudalen. Byddai hyn yn ei gwneud yn anoddach dod o hyd i gynnwys. Awgrymwn i fod angen ystyried hefyd roi delweddau gwahanol i’ch negeseuon ym mhob iaith, i wneud iddynt edrych yn wahanol.
Byddai’r ail opsiwn yn broblem gan mai dim ond ychydig linellau o’r neges lawn sy’n ymddangos yn ffrwd eich dilynwyr. Os oes gennych bedwar paragraff (un i bob iaith), mae’n debyg mai dim ond dechrau’r paragraff cyntaf fyddai ar gael heb fod defnyddwyr yn clicio “Darllen mwy” i ehangu’r neges. Ac os nad oedden nhw’n deall yr iaith gyntaf yn y neges, mae’n anhebygol y gwnânt hynny!
Opsiynau cyhoeddi amlieithog ar Facebook
Mewn cofnod cynharach am ddefnyddio Twitter yn ddwyieithog, awgrymais y byddai’n fuddiol i rai gael cyfrifon ar wahân ar gyfer bob iaith. Ond nid wyf am awgrymu hynny yma.
Pam? Wel mae Facebook yn llawer cymhlethach na Twitter yn y dull mae’n cyflwyno cynnwys i’w ddefnyddwyr. Mae’r algorythmau yn anhebygol o ddangos cynnwys amherthnasol i ddefnyddwyr Facebook, a hynny’n cynnwys negeseuon mewn ieithoedd sy’n ddiarth iddynt. (Tip i chi ddefnyddwyr Facebook – ewch i’r gosodiadau a nodi pa ieithoedd sydd gennych.
Sut mae dweud wrth Facebook pa ieithoedd sydd gennych.Dyma’r dulliau yr ydw i am eu hawgrymu:
Targedu negeseuon cwbl ar wahân i bob iaith
Ar dudalen Facebook mae modd creu neges i dargedu cynulleidfaoedd ar sail diddordebau neu ddemograffi. Wrth gyfansoddi neges, chwiliwch am y botwm sy’n edrych fel “Targed” o dan y blwch cyfansoddi, ac fe ddaw y ddewislen hon i’r golwg. Nodwch yr iaith yma.
Cyfyngu cynulleidfa neges i un iaith yn unigMae gwneud fel hyn gadael elfen o fympwy algorythmig Facebook yn hyn, ac nid yw’n bendant pwy fydd yn gweld beth. Ai rhywun sydd wedi gosod eu hiaith Facebook i Gymraeg? Fe dybiwn, ond does dim sicrwydd du a gwyn.
Mae hyn hefyd dal yn gadael y drws yn agored i gyfieithu peirianyddol o fewn Facebook. Hynny ydi, mae Facebook ei hun yn cyfieithu cofnodion yn awtomatig i ddefnyddwyr mewn ieithoedd eraill – ac fe all hynny greu negeseuon gwallus, neu achosi embaras!
2. Cyfansoddi amlieithog o fewn un neges Facebook
I mi dyma’r opsiwn glanaf a gorau ar hyn o bryd i gyhoeddi ar Facebook yn amlieithog.
I wneud hyn bydd rhaid newid ambell osodiad. Ar eich proffil ewch i Gosodiadau>Cyffredinol>Post in multiple languages:
Dweud wrth Facebook pa ieithoedd yr ydych yn eu deall.Neu, ar eich tudalen ewch i Gosodiadau>Post in multiple languages. Ticiwch y blwch a chadwch y newidiadau”
Er mwyn cyhoeddi’n amlieithog ar dudalen Facebook, newidiwch yr opsiwn hwn.O’r fan honno, mae cyfansoddi yn syml. Ewch ati i ysgrifennu neges yn eich dewis iaith. Wrth i chi wneud, bydd dewis yn ymddangos sy’n dweud “Write post in another language”. Ewch ati i ychwanegu gymaint o ieithoedd ag y mynnwch.
Dyma sut mae cyfansoddi neges mewn mwy nac un iaith.Mewn theori, wedyn, fe ddylai defnyddwyr Facebook – eich cynulleidfa chi – weld eich negeseuon yn yr iaith (neu’r ieithoedd) y maen nhw wedi ei dewis yn ddiofyn.
Oes problemau gyda’r dulliau hyn?
Mae cymhlethdodau algorythmau Facebook yn gwneud unrhyw farchnata a chyfathrebu trwy Facebook yn ddi-ddal. Mae llwyddo i gael sylw cynulleidfa yn organig yn mynd yn fwyfwy anodd.
Y broblem fwyaf gyda’r dull hwn hefyd ydi annibynadwyedd faint o bobl sy’n dweud wrth Facebook pa un yw eu dewis iaith. Faint sy’n defnyddio Facebook yn Gymraeg, beth bynnag?
Os yw’r ffigurau’n debyg i’r ffigurau o ddefnyddwyr sy’n newid iaith eu porwyr gwe o’r dewis diofyn (Saesneg UD, neu Saesneg DU), bydd hynny’n bur isel. Gall hyn effeithio ar allu eich negeseuon i gyrraedd defnyddwyr mewn unrhyw iaith ond Saesneg – hyd yn oed os ydych chi wedi creu neges mewn iaith arall ar eu cyfer.
Dewch ‘laen, Gymry, dwedwch wrth y byd beth yw’ch dewis iaith!
Dyna sut mae cyhoeddi’n amlieithog ar Facebook
Mae gan Facebook, felly, sawl ffordd o fynd ati i gyhoeddi negeseuon mewn sawl iaith – gobeithiaf fy mod i wedi dangos i chi yr opsiynau sydd ar gael i chi ac wedi awgrymu pa rai sydd orau i’w defnyddio.
Calan Gaeaf neu beidio – dim ond ysbrydion da sydd yma!
Beth yw’ch profiad chi? Fe garwn i ddysgu, felly gadewch sylw isod i ni drafod.