Os ydych chi’n darllen erthyglau ar wefan CRYNO, mae’n debygol iawn y byddwch chi wedi bod angen cyfieithu copi digidol ar ryw adeg. Mae safonau newydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn fod sefydliadau cyhoeddus yn gorfod cynnig sianelau cyfathrebu dwyieithog. A ph’un ai eich bod chi’n cynrychioli sefydliad neu fel chi eich hun, mae gallu defnyddio cyfryngau digidol yn ddwyieithog yn cynnwys llu o fanteision wrth greu perthynas â phobl eraill neu gyda chwsmeriaid.
Pwy ddylai fod yn cyfieithu copi digidol?
Sut ewch chi ati felly? Rydw i am roi fy nghroen ar y pared a dweud o’r dechrau fel hyn: lle bynnag y bo’n bosib i chi greu copi digidol yn y ddwy iaith, gwnewch hynny eich hun. Yn enwedig cyfieithu copi digidol ar gyfer cyfryngau cymdeithasol. Pam hynny? Am fod crefftau penodol i gyfryngau digidol sy’n gallu bod yn ddiarth i’r sawl nad ydynt yn ysgrifennu ar eu cyfer yn rheolaidd.
Ond mae’n anochel nad oes gan bawb amser, y modd neu’r adnoddau i wneud hynny eu hunain felly bydd angen cymorth cyfieithydd. Ond mae angen ystyried sawl peth cyn gyrru eich cynnwys at gyfieithydd. Cofiwch eich bod chi wedi treulio oriau yn saernïo eich cynnwys chi – pa les yw colli mymryn o geinrwydd eich crefft wrth i rywun arall gyfieithu eich gwaith?
Oes hyd yn oed angen i mi sôn wrthych am beidio â chyfieithu trwy beiriant?
Apologia i’r cyfieithwyr!
Nid fy mod i yn beirniadu cyfieithwyr ychwaith. Rydw i’n adnabod cyfieithwyr gwych iawn. Mae rhai o fy ffrindiau gorau yn gyfieithwyr! Ac fel un nad yw’n gyfieithydd rydw i’n edmygu eu crefft. Ond fe ddwedaf mai nid pob un cyfieithydd sydd yn mynd i fod yn gwbl gyfforddus a rhugl yn creu cynnwys i’r amrywiaeth o gyfryngau digidol sydd ar gael. Ac yn sicr, prin yw’r cyfieithwyr sydd yn mynd i fod yn farchnatwyr digidol neu’n gyfathrebwyr gwych hefyd.
Eich dyletswydd chi felly yw helpu’ch cyfieithydd i ddeall eich hanghenion yn llwyr cyn cyfieithu copi digidol – er eich mwyn chi a’r cyfieithydd! Dyma ambell awgrym sut i fynd ati i wneud hynny:
1. Cyfieithu i’r cyfrwng a’r gynulleidfa
Mae’n hanfodol fod cyfieithwyr yn deall y cyfrwng a’r gynulleidfa y maent yn cyfieithu ar eu cyfer.
Am mai sgyrsiol yw’r cyfryngau cymdeithasol, fe fyddwn i’n annog peidio â chyfieithu cynnwys lle bo hynny’n bosib, a defnyddio’ch llais naturiol ym mhob iaith. Ond gan gydnabod fod yn aml angen dechrau sgyrsiau trwy greu cynnwys i’w rannu, gellir fod angen cymorth arnoch i gyfieithu’r cynnwys. Os felly dywedwch wrthynt:
- pwy yw’r gynulleidfa sydd gennych mewn golwg ar gyfer y copi
- trwy pa gyfrwng mae pob darn o gopi yn mynd i gael ei gyhoeddi (e.e. cofnod blog, Twitter, Facebook)
2. Tôn llais
Mae’n bwysig iawn cael tôn y llais yn iawn cyn cyfieithu copi digidol. Dyna un o’r pethau pwysig am y cyfryngau digidol: nid yw gorffurfioldeb a chymhlethdod ieithyddol yn mynd i ennyn unrhyw ffafrau. Os yw’ch cynnwys chi wedi ei greu yn dda, dylai’r cyfieithydd adlewyrchu hyn yn ei gyfieithiad, a’r iaith yn adlewyrchiad llafar o’ch gwreiddiol chi.
Er enghraifft, tôn lafar sydd i’r cyfryngau cymdeithasol. Ni thycia iaith ffurfiol neu ferfau cryno (beth bynnag yr awgryma enw’r blog hwn!) Nid yw gorddefnydd o’r llais goddefol neu amhersonol ychwaith yn mynd i fod yn addas. Tydi iaith ffurfiol a berfau cryno ddim yn gweithio mewn copi digidol yn Gymraeg yn enwedig ar gyfryngau fel Twitter a Facebook. Os nad ydych chi’n swnio fel y byddwch yn siarad, yna ni wna’r gynulleidfa weld y person tu ôl i’r geiriau.
Pa un yw’r gorau yma, o ran naturioldeb, yn eich barn chi?
- “Enillasom wobr am ein gwaith ymgysylltu â phobl ifainc. Teimlwn mor freintiedig o gael cydnabyddiaeth ein cymheiriaid!”
- “Rydyn ni wedi ennill gwobr am ein gwaith hefo pobol ifanc. Mae’n gymaint o fraint – diolch i bawb sydd wedi ein cydnabod!”
Efallai bod fersiwn 1 yn gywir, ond os gwnaethoch ddewis hwnnw, rydych chi ar blaned wahanol i bron pawb arall. Rhif 2 sy’n naturiol ac yn fwy addas i’r cyfryngau cymdeithasol. Dylai fod smeili ar y diwedd hefyd, siŵr o fod. Neu GIF o rywun yn edrych yn hapus.
Yr eironi mawr wrth gwrs, yw bod berfau a ffurfiau cryno fel petaent yn berffaith ar gyfer negeseuon cyfryngau cymdeithasol. Ond does neb yn siarad felly mewn bywyd go iawn – felly seithug ydi trio ysgrifennu copi sy’n eu cynnwys. Mae’n dod drosodd fel cyfieithiad annaturiol.
O ran erthyglau ar-lein, mae mwy o le i amrywio tôn llais yma, a defnyddio iaith fymryn yn fwy ffurfiol. Ond gochelwch, tydi Cymraeg ffurfiol a’r cyfryngau digidol yn gyffredinol ddim wedi priodi’n gymodlon…eto.
3. Terminoleg
Trafodwch gyda’ch cyfieithydd unrhyw dermau a all fod yn ddiarth neu’n newydd ymlaen llaw. Os gallwch, dros amser, greu canllaw arddull (neu fath o styleguide), gorau oll. Mae anghysondeb neu aneglurder rhwng termau yn broblem i ddefnyddwyr a chynulleidfaoedd.
Os ydych chi’n deall anghenion creu copi digidol, byddwch hefyd yn deall pwysigrwydd rhai termau allweddol, yn enwedig mewn cofnod blog, neu eitem newyddion. Sicrhewch fod hyn yn ystyriaeth cyn cyfieithu copi digidol.
Cymorth cyfieithu copi digidol
Dyna fy mhwt am gyfieithu copi digidol. Cofiwch felly fod angen sicrhau bod y cyfieithydd yn deall
- y cyfrwng a’r gynulleidfa
- tôn eich llais
- y derminoleg orau
Os medrwch, sicrhewch fod gennych gysylltiad agos hefo’r cyfieithydd, a pherthynas broffesiynol dda i ddeall eich hanghenion eich gilydd. Ffeindiwch y cyfieithwyr gorau i chi, trafodwch eich hanghenion – a bydd cyfieithydd da wrth eich bodd a’ch cynnwys digidol yn taro deuddeg bob tro.
Ydych chi’n cytuno? Ydych chi’n gyfieithydd sydd ag unrhyw sylw ar hyn, am fy mod yn rhy rhyfygus fy marn?! Gadewch sylwadau isod ac fe drafodwn.