Creu llai o gynnwys, a hwnnw’n gynnwys gwell

rhannu profiad diweddar, sef sut y bum yn gwneud pethau, a sut dwi wedi dechrau gwneud pethau bellach.

 

y drefn oedd, creu cynnwys a’i gyhoeddi dro ar ôl tro.

 

ond bellach, mae algorithmau yn chwarae rhan, ac wedi newid pethau.

O greu cynnwys gwell ar y cyfyrngau cymdeithasol, mae’n troi;n gynnwys sy;n hiorhoedlog. Mae cyfrwng fel twitter yn ei ddangos yn y blwch “while you were away”. Bellach, mae dolen dda yn dal i gael ei aildrydar dros wythnos yn ddiweddarach.

Beth sy;n gwneud cynnwys gwell?

Wel maer copi yn gorfod bod yn dda wrth gwrs. Dechrau bachog, a galwad i weithredu. Ond y newid mwyaf ydi defnyddio lluniau yn glyfar. Mae hyn wedi trawsnewid llawer o bethau.

Emojis. Dibynnu ar dôn llais, ond mae’n gallu rhoi  dimensiwn ychwanegol, dynol.

Llun trawiadol, ond cynnyws manylion ysgrifenedig ar y llun hefyd. mae hyn yn caniatau manylion ychwanegol i’r 140, ond hefyd yn dal llygad.

Dwi’n defnyddio Canva i hyn.

Mae ymwneud â’n cynnwys cyfryngau cymdeithasol wedi codi o #% dro sy misoedd diwethaf. Arbennig!

 

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *