Dros y blynyddoedd mae defnyddio mapiau ar wefannau i gyflwyno gwybodaeth yn weledol wedi bod yn dechneg go gyffredin. A heddiw, byddaf fi, wrth drafod datblygu cynnwys gyda chydweithwyr, yn dal i glywed yn aml yr awgrym “beth am inni gyflwyno [hyn neu’r llall] trwy gyfrwng map?”
Mae’n bryd felly gosod fy mhin innau ar fy map beirniadol, a dweud, “Na! Plis, na!” Mae’n amser stopio defnyddio mapiau mor fympwyol ar eich gwefannau. Mi ddywedaf wrthych chi pam hynny ar ôl rhoi gair o blaid y map.
Hanes hir defnyddio mapiau
Mae gen i feddwl y byd o fapiau o bob math. A dweud y gwir mae gen i dueddiad i brynu hen (neu hen hen) fapiau o siopau ail-law. Byddaf yn edrych arnyn nhw am oriau yn meddwl am yr enwau, a’r ddaearyddiaeth, a sut fyddai pobl yn byw yn y llefydd hyn. Bydda i’n aml hefyd yn hoffi creu map bach wrth ddarllen llyfrau, er mwyn dod â’r stori yn fyw yn fy mhen.
Un o’r pethau fwyaf trawiadol a welais ers tro byd yw darlun-fap digidol ‘Afonydd Cymru’ Dafydd Elfryn.
Ond nid oes dim o’r pethau hyn yn fy mherswadio mai da o beth, ar y cyfan, yw defnyddio mapiau ar wefannau.
Anfanteision defnyddio mapiau ar wefannau
Un peth sy’n gyffredin am yr enghreifftiau a ddefnyddiais uchod ydi mai cynrychioli rhywbeth arall y mae’r mapiau. Rhyw fath o ychwanegiad ydynt at brif naratif stori, neu gynrychioliad gweledol o rywbeth arall sy’n fy niddori. Nid drwg o beth yw hynny.
Ond yn aml iawn, rwyf wedi gweld mapiau yn cael eu gosod ar wefannau, boed hwy’n Google Maps, neu’n fapiau sy’n gorchuddio data arall, sydd fel petaent yn cymryd lle prif naratif y safle. Yn y bôn, mae’n rhoi profiad gwael i defnyddwyr sydd eisiau llywio eich gwefan. Heb sôn am fod yn anhygyrch i bobl anabl.
Defnyddio mapiau fel prif ddull llywio
Dyma i mi yw’r tramgwydd mwyaf o ran defnyddio mapiau ar y we. Nid yw’n anodd dod o hyd i wefannau sydd â thudalennau blaen, neu dudalennau canlyniadau, sydd â map fel prif nodwedd iddynt.
Fel na fyddwch yn llywio’ch ffordd trwy lyfr yn defnyddio map, ni ddylech lywio gwefan felly. Mae’n brofiad gwael i ddefnyddwyr – yn enwedig pobl sy’n edrych ar eich gwefan ar ffôn neu lechen.
Os mai’r nod yw dangos bod digwyddiadau ar draws Cymru yn digwydd, mae rhwydd hynt i ddangos map yn rhywle i gynrychioli hynny. Ond nid y map ddylai fod yn elfen lywodraethol ar eich tudalen. Ac nid trwy’r map, yn ddelfrydol y dylech chi glicio am ragor o wybodaeth am ddigwyddiad.
Dull amgen i ddangos gwybodaeth yw map ar wefan. Cynrychioliad gweledol sy’n help i weld y darlun mawr. Yn fy marn i nid yw’n ddull i lywio gwybodaeth.
Gormes ar faint y sgrin
Anfantais arall yw fod map yn tueddu i lenwi sgrin, yn enwedig sgriniau llai. Os nad ydych wedi cael cyfle i esbonio beth sy’n cael ei gynrychioli gan y map, tydi llond sgrin o fap ddim yn mynd i helpu neb.
Yn fy mhrofiad i, mae mapiau yn tueddu i arafu tudalennau gwe yn sylweddol. Yn enwedig felly wrth fewnosod Google Maps, neu fapiau sy’n tynnu gwybodaeth o sawl ffynhonnell.
Os yw profiad defnyddwyr ffonau symudol yn bwysig i chi (ac fe ddylai fod) – yna rhowch y map i un ochr.
Ond be os ydw i eisiau darganfod gwybodaeth yn lleol?
Bydd data lleol a lleoleiddio yn dueddiad pwysig yn y blynyddoedd i ddod, yn enwedig i ddefnyddwyr ffonau symudol. Ond dyma’r union reswm i beidio â defnyddio mapiau!
Gallwch gyflwyno gwybodaeth leol mewn dulliau llawer mwy effeithiol gan ddefnyddio lleoliad defnyddwyr trwy’r porwr, neu leoliad y teclyn symudol (gyda chaniatâd y defnyddwyr). Gallwch wedyn gynnig rhestr o ganlyniadau (e.e. o ddigwyddiadau lleol) gyda’r canlyniadau agosaf yn gyntaf, heb fod angen map i lywio o un digwyddiad i’r llall.
Eithriadau lle mae defnyddio mapiau yn dderbyniol
Mae’n iawn defnyddio mapiau os ydych chi am ddelweddu data, neu gyfleu syniad trawiadol. Ond cynigiwch bob tro ddull arall o lywio’r wybodaeth. Cynrychioliad gweledol a dim mwy yw map.
Hefyd os ydych yn fusnes sydd â chyfeiriad busnes cyhoeddus, gallwch ddefnyddio map fel amcan o’ch lleoliad i ddefnyddwyr. Ond nid ar draul nodi eich cyfeiriad llawn ar eich gwefan.
Ydych chi’n cytuno? Ni synnaf na bydd llawer yn anghytuno â mi ar y pwnc hwn. Rhowch sylw isod i ni gael trafod y mapiau’n iawn!