3 rheswm pam fod marchnata ebost yn bwysig o hyd

Y dyddiau hyn mae’n hawdd esgeuluso’r rhesymau pam fod marchnata ebost yn bwysig. Pan gyrhaeddodd y ‘peth sgleiniog newydd’ hwnnw – y cyfryngau cymdeithasol – anghofiodd nifer o farchnatwyr am eu rhestr bostio. Onid oedd bellach ffordd well, gyflymach a mwy cŵl o gyfathrebu na gyrru cylchlythyr?

Nid ydw i’n dweud nad ydy dulliau pobl o dderbyn cynnwys wedi newid. Wrth gwrs, mae’r sianelau sydd ar gael heddiw yn llawer mwy niferus, ond dydi hynny ddim yn gwneud marchnata ebost yn llai pwysig.

Meddyliwch yn nhermau teledu digidol (llaw i fyny pwy sy’n cofio teledu analog!). Pan lansiodd teledu digidol a’r degau o sianeli newydd – nid oedd S4C, neu BBC 1 yn llai pwysig. Mewn ffordd, daethant hyd yn oed pwysicach. Bron fel craig yng nghanol y tywod sy’n newid ei ffurf yn barhaus.

Dyma felly fynd ati i gynnig 3 rheswm pam fod marchnata ebost yn bwysig o hyd.

Rheswm 1: Y gynulleidfa deyrngar

Mae’r rhai sydd wedi tanysgrifio i’ch cylchlythyr eisoes wedi mynegi rhyw gymaint o ddiddordeb neu deyrngarwch ynddoch chi neu’ch brand.

Ystyriwch pa mor anodd mewn gwirionedd yw cael defnyddiwr i gyflawni nod ar eich gwefan e.e. prynu nwydd neu gynnyrch, neu danysgrifio i’ch rhestr bostio. Mae’r rhain eisoes wedi gwneud, a bydd rhai ohonynt wedi gwneud ers blynyddoedd maith. Ni ddylech esgeuluso’r teyrngarwch hwnnw drwy beidio â rhannu’ch cynnwys hefo nhw. Fe fyddan nhw yn diolch i chi, a byddwch chi ar eich hennill.

Rheswm 2: Mae gan bawb gyfeiriad ebost

Iawn – nid pawb, efallai. Ond fel yn y dyddiau cyn y we, gellid tybio fod bron pawb â chyfeiriad corfforol lle roeddent yn trigo. Gallwn synio felly am gyfeiriadau ebost.

Mae’n bosib nad oes gan berson gyfrif Twitter, Instagram neu Facebook (pwy all ei dal hi’n bob man?), ond mae’n amhosib cael yr un ohonynt heb gyfeiriad ebost.

Rheswm 3: Dyma’ch craig yn y tywod cyfnewidiol

Nid ydw i’n bwriadu troi’n feiblaidd arnoch, ond mae gen i bwynt difrifol i’w wneud!

Mae’r we yn lle mor brysur y dyddiau yma. Bydd gwefannau newyddion yn creu cynnwys sy’n erfyn am eich sylw. Mae ffrwd Twitter neu Facebook, sydd byth yr un fath 2 waith yn ddigon i ddrysu rhywun. Does gan neb amser i bopeth.

Mae’n llawer fwy tebygol y bydd cynnwys sy’n cael ei greu i’r cyfryngau cymdeithaol yn cael ei golli ynghanol prysurdeb mawr nac ydy cynnwys ebost. Dyma’ch cyfle i greu cynnwys o werth i’ch tanysgrifwyr – cynnwys ecsgliwsif nad yw ar gael fel arall. Hafan fach ynghanol y twrw.

Wedi dweud hynny, ni all y cyfryngau hyn fod yn annibynnol ar ei gilydd – mae’n rhaid i’ch gwefan, eich cyfryngau cymdeithasol a’ch marchnata ebost oll gydweithio tua’r un nod o fewn darlun ehangach.

Tywod traeth cyfnewidiol ydi’r we heddiw. Ond yma ac acw ar ehangder aflonydd y tywod, mae craig fach sydd wastad wedi bod yno yn ymwthio i’r wyneb mewn llanw a thrai. Os ydych chi’n farchnatwr digidol, enw un ohonynt ydi ‘ebost’!

(Nid nad ydi newidiadau technoleg ddiweddar yn ein galluogi i gysylltu â’n tanysgrifwyr trwy ebost yn llawer fwy effeithiol nac o’r blaen. Mae’r tywydd yn siapio’r graig hefyd. Ond mae hynny’n bwnc i erthygl arall.)

Gofynnwch pam fod marchnata ebost yn bwysig i chi

Mae sawl rheswm pam y gall marchnata ebost fod yn bwysig i chi, gan ddibynnu ar yr hyn yw’ch nodau ehangach. Ydych eisiau cynyddu gwerthiant? Neu rannu cynnwys y wefan? Cynyddu ymwybyddiaeth o’ch brand?

Mae marchnata ebost yn gyfrwng cynaliadwy iawn. Dyma gyfle i adeiladu perthynas hir-dymor gyda chwsmeriaid neu gynulleidfaoedd. Cofiwch bod angen gwneud tri pheth:

  • Cynnig lle cyson a strategol ar eich gwefan i bobl danysgrifio
  • Gyrrwch ebost yn rheoliadd, boed hynny’n wythnosol neu’n fisol
  • Rhowch gynnwys unigryw i’ch tanysgrifwyr – maen nhw’n arbennig!

Af i ehangu ar y triphwynt yma mewn erthygl rhyw dro eto.

Ydi marchnata ebost yn bwysig i chi fel unigolyn, i’ch busnes neu i’ch sefydliad? Ydych chi wedi cael trafferthion gwybod sut i dyfu neu gysylltu â’ch tanysgrifwyr? Beth am roi sylw isod i gael trafod yma.

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *