Ar Bodlediad Clera Mehefin 2017, mewn darllediad o Ŵyl Gerallt ar benwythnos olaf mis Mai 2017, holodd Ceri Wyn Jones y cwestiwn ‘A ydy telyneg angen bod mewn mydr ac odl’?
Cwestiwn gîci tu hwnt, meddech chi. Achubodd Ceri Wyn Jones ei groen yn gynnar trwy nodi nad yw hyn yn ei gadw’n effro yn y nos. Prysuraf innau i ddweud yr un fath. Ond dyma sgwarnog ddigon difyr i’w dilyn. I wrando ar y sgwrs chwaraewch y bennod isod. Mae’r drafodaeth dan sylw tua 28 munud wedi’r dechrau.
Diffiniadau amrywiol o’r term ‘Telyneg’
Man cychwyn da bob tro wrth drafod ystyr term yw cael gafael ar ddiffiniadau fwy ‘swyddogol’. Dyma gynnig diffiniad Geiriadur Prifysgol Cymru:
telyneg: Cerdd gryno sy’n mynegi teimladau’r bardd, cerdd a gyfansoddwyd i’w chanu gyda’r lyra:
lyric (poem).
Wrth chwilio “lyric” neu “lyric poetry” ar y we down ar draws diffiniad Wikipedia:
Lyric poetry is a formal type of poetry which expresses personal emotions or feelings, typically spoken in the first person.
Cytuna yn ei hanfod â Geiriadur Prifysgol Cymru felly ynglŷn â deunydd personol, emosiynol telyneg. Ond fe â ymhellach na hynny gan ychwanegu:
Much lyric poetry depends on regular meter based either on number of syllables or on stress.
Ond ‘much’, sylwer, nid y cyfan.
Nid yw diffiniad y Poetry Foundation yn sôn am fydr ac odl yn ei ddiffiniad yntau:
Originally a composition meant for musical accompaniment. The term refers to a short poem in which the poet, the poet’s persona, or another speaker expresses personal feelings.
Fodd bynnag dim ond 3 o’r 4 enghraifft a nodir sydd mewn mydr ac odl. Mae un, Vita Nova, yn gerdd rydd.
Y ‘Delyneg’ Gymraeg a’r ‘Lyric’ Saesneg
A oedd gwahaniaeth yn y diffiniadau Cymraeg a Saesneg felly?
Yn ôl y diffiniadau hyn, nid oes gwahaniaeth mawr rhwng diffiniadau craidd y ddwy iaith. Mae’r canfyddiad sylfaenol o “gerdd gryno yn mynegi teimladau’r bardd” ym mhob un o’r uchod. Mae tarddiad cerddorol y canu telynegol yn parhau ar ffurf fydr ac odl, ond nid yw hyn yn gyfyngiad ar y term bellach. Fe all ‘telyneg’, fel ymbarél o derm, gynnwys cerddi vers libre.
Ond mae dwy ystyriaeth bellach yn codi yn nhermau’r delyneg Gymraeg. Sef:
- Dylanwad Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru dros y blynyddoedd
- Bodolaeth y Gynghanedd
Trafodaf y ddwy yn weddol gryno yn fan hyn.
Y Delyneg, y Canu Caeth a’r Talwrn
Gan fod Ceri Wyn Jones, holwr y cwestiwn dan sylw yng Ngŵyl Gerallt, yn feuryn ar Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru bellach, teg fyddai gwyntyllu perthynas y delyneg a’r Talwrn yn hyn o beth. A hynny gan mai dyma’r cyfrwng sy’n dylanwadu fwyaf ar dueddiadau’r maes barddol yn ehangach.
Ar y Talwrn mae ‘Telyneg’ wedi mynd yn derm am gerdd nad ydi hi’n gerdd gaeth. Mae wedi bod felly ers degawdau bellach. Hynny yw, cyfle i’r beirdd hynny nad ydy eu hawen yn cyd-fyw’n braf â chywydd neu hir-a-thoddaid gystadlu ar eu dewis fesur.
A dyna sy’n rhyfedd; nad oes tasg ar y talwrn o’r enw “cerdd gaeth”. Mae’r gerdd gaeth bron bob tro wedi diffino’r mesur. Hynny yw ‘Cywydd heb fod dros 12 llinell’ neu ‘Hir-a-Thoddaid’. Efallai bydd Meuryn y dyfodol yn gosod Cywydd Llosgyrnog neu Rupunt Hir fel tasg (gobeithio ddim)!
Ac onid dyma ddylai ddigwydd gyda’r delyneg? Ers i Ceri Wyn Jones ddod i sedd y Meuryn, mae tueddiad wedi bod i’r cyfeiriad hwn. Cafwyd ‘Soned’, ‘Telyneg’, ‘Telyneg mewn mydr ac odl’ i enwi rhai. Ac nid drwg o beth yw hynny. Onid oes lle i fynd ymhellach na hyn? Beth am Filanel, cerdd Vers Libre?
Byddai hyn yn tynnu nifer o feirdd o wlâu plu eu hawen. Mynd tu hwnt i’r ‘comfort zone’. Ac i mi, dyna’r peth gorau am y Talwrn. Cael cyfle i drio mesur neu gyfrwng newydd a chael barn y Meuryn ar yr ymgais. Dyna sut mae rhywun yn datblygu wedyn fel bardd, yn dod yn fardd mwy amrywiol ei awen ac yn fwy hyblyg ei grefft o fewn cyfyngiadau’r dasg.
Ac onid gwobrwyo’r Tim Talwrn mwyaf medrus a hyblyg sy’n gwneud cystadleuaeth dda? Efallai bod lle i fwy o dagsau penodol wrth i’r gystadleuaeth fynd yn ei blaen, er mwyn tynnu gwahaniaeth rhwng beirdd â’i gilydd.
Ateb y cwestiwn mydr ac odl
A ydi telyneg angen bod mewn mydr ac odl felly? Ddim o gwbwl, yn fy marn i. Ond fel y nodwyd eisoes, da o beth weithiau yw gosod cyfyngiadau ar feirdd mewn cystadlaeuaeth.
O dderbyn y gall telyneg, felly, yn ei ystyr ehangaf, olygu ‘unrhyw gerdd nad yw ar gynghanedd, ond sy’n mynegi teimladau’r bardd’, tybed ai’r hyn a ddylem ei ofyn yw;
A ddylid ddefnyddio llai ar y term ‘telyneg’ i olygu ‘canu rhydd’? Ac a oes angen, wrth gystadlu, herio ein beirdd trwy osod rhagor o gyfyngiadau arnynt o fewn cwmpas ‘telyneg’ o bryd i’w gilydd?
Cofiwch danysgrifio i’r blog. A gwyliwch am y rhith-gofnod a ddaw wythnos nesa: Beth ddiawl yw pryddest? A phwy sy’n poeni?