Dyma fy nghyflwyniad i’r gynghanedd lle byddwch yn dysgu ambell gyfrinach am y grefft a sut i’w dysgu.
Ydych chi eiroed wedi bod eisiau mynd ati i ddysgu’r gynghanedd?
Ydych chi wedi ceisio dysgu, ond wedi rhoi’r gorau iddi?
Efallai bod rheswm am hynny! Yn y fideo hwn, byddaf yn:
- mynd â chi ar wibdaith hanesyddol gynganeddol trwy ein traddodiad barddol
- craffu ar ambell fyth a ffaith diddorol am y gynghanedd
- rhoi’r cyfrinachau sydd eu hangen arnoch CYN dysgu rheolau’r gynghanedd ei hunan.
Y cyflwyniad i’r gynghanedd
Rydw i wedi rhoi’r cyflwyniad hwn i nifer o glybiau a chymdeithasau dros y blynyddoedd.
Ond gyda diolch i weithgareddau AmGen yr Eisteddfod Genedlaethol, dyma hi bellach ar gael ar we. Roedd yn ‘ddarlith yr wythnos’ ar nos Fawrth, 9 Mehefin 2020. Ond dwi’n addo ei bod yn dipyn fwy hwyliog na ‘darlith’!