Dyma nodiadau wythnosol hwyr. Cryno ‘bia hi felly.
- Fe wnes i wthio’r maen i’r wal gydag archeb y cwrs Gweithio gyda GenAI. Bydd 7 ohonom yn ymuno â chwrs Content Design London yn y flwyddyn newydd. Dwi’n credu y bydd hyn yn wych. Yn ôl disgrifiad y cwrs mae’n cynnig agwedd fwy dynol ac ymarferol o ran AI. Gallai helpu i ni feddwl yn fwy ystyrlon am ein llifoedd gwaith yn y dyfodol, gan gynnwys pryd i – a phryd i beidio ag – ymwneud ag AI. Roedd sicrhau bod pawb ar gael, gwneud yr holl waith gweinyddol (ac roedd lot ohono) yn dipyn o waith. Roedd Dani’n anhygoel wrth helpu gyda hyn.
- Gen wnes i baratoi ar gyfer cinio a dysgu dydd Llun
- Cymuned Dylunio Cynnwys Cymru: Bûm yn paratoi ar gyfer sesiwn yr wythnos nesaf a chynllunio ar gyfer y dyfodol, ysgrifennu negeseuon mewn pâr gyda Gem, a gwahodd pobl i’r F2F ym mis Chwefror
- Cynlluniais fy sgwrs ar gyfer cymuned Cwmni Cyllid Myfyrwyr dydd Mercher nesaf
- Fe wnes i ychydig o waith meddwl ar gyfer y sesiwn Cymraeg a thechnoleg sy’n digwydd mewn cwpl o wythnosau
- Cefnogais Liam ac Adrián gyda rhywfaint o waith gyda’r llyfrgell patrwm gwasanaeth (a wnaeth i mi feddwl am lifau gwaith ar gyfer cynnwys dwyieithog) …
Hefyd, roedd rhaid i mi wneud 2 daith gwirioneddol boenus i’r banc i brofi pwy ydw i. Diolch, Banc Lloyds.
Yr wythnos diwethaf, fe wnes i addo rannu ysgrifennu mwy am rai pynciau. Mae ar fy rhestr! Mae’r Nadolig yn nesáu mor gyflym, serch hynny.
Uchafbwynt yr wythnos i mi oedd cael fy nodi mewn rhifyn o #FixtheForms gan Caroline Jarrett. Beth yw ‘bucket list’ yn Gymraeg?! Rhestr fwced? Dyna be oedd o. Soniais ar Bluesky am PDF 88 tudalen y mae’r awdurdod lleol yn ei anfon i ni i wneud cais am le derbyn mewn ysgol. Ddallenais i’r PDF? Naddo. Wnes i wneud cais? Do, mewn tua 4 munud. ‘Doedd y ffurflen ddim yn dda iawn, chwaith.
Dyna’r cyfan. Dyna’r cwbl a gewch chi’r wythnos hon.